Bydd y Rheolwr Technegol Teithiol yn ymuno â'r cynhyrchiad yn ystod wythnos olaf y rhediad yn Theatr Clwyd.
Bydd y Rheolwr Technegol Teithiol yn gyfrifol am redeg, cynnal a chadw, canfod namau ac atgyweirio'r offer goleuo, fideo a chapsiynau teithiol o ddydd i ddydd. Bydd yn gweithio ochr yn ochr â'r Peiriannydd Fideo a'r Ailoleuydd ar y gwaith ffitio i sicrhau bod yr holl offer wedi'i osod yn ei le ac yn weithredol.
Bydd y Rheolwr Technegol Teithiol yn trafod y plotiau sbotolau dilyn gyda gweithredwyr sbotoleuadau dilyn y lleoliad a bydd yn "galw" y sbotoleuadau dilyn ar gyfer y rhediad cyntaf ym mhob lleoliad.
Bydd y Rheolwr Technegol Teithiol yn gyfrifol am wiriadau a chynnal a chadw dyddiol ar y systemau goleuo, fideo a chapsiynau ac am weithio gyda'r Pennaeth Sain ar gyfer gwiriadau meicroffonau a sain. Mae'n annhebygol y bydd gan y rôl hon blot sioe penodol oherwydd bydd angen i’r Rheolwr Technegol Teithiol fod ar gael i ganfod namau a thrwsio unrhyw broblemau yn ystod y perfformiad.
Bydd y Cynorthwy-ydd Technegol yn gweithio'n agos gyda'r Rheolwr Technegol i ofalu am yr offer technegol ar y daith.
Os bydd raid i'r Cynorthwy-ydd Technegol lenwi rôl un o'r plotiau sioe technegol, bydd y Rheolwr Technegol yng ngofal y dyletswyddau Sain Rhif 2 yn ystod y perfformiad.
Bydd y Rheolwr Technegol Teithiol yn bresennol ar gyfer y gwaith gosod a'r gwaith symud allan ym mhob lleoliad ac mae hefyd yn gyfrifol am lwytho a dadlwytho'r lori yn ôl yr angen.
Bydd y Rheolwr Technegol Teithiol yn cadw at holl bolisïau a gweithdrefnau Theatr Clwyd a’i reolwr llinell fydd Hannah Lobb (Pennaeth Cynhyrchu Theatr Clwyd).
Os hoffech chi gael eich ystyried ar gyfer unrhyw un o'r swyddi, anfonwch eich CV ar e-bost a nodi pa swyddi yr hoffech gael eich ystyried ar eu cyfer at Jenny Pearce, Cynhyrchydd ar jenny.pearce@theatrclwyd.com, gan gynnwys unrhyw ofynion mynediad yr hoffech eu rhannu hefyd.
Y dyddiad cau i anfon eich CV yw dydd Iau 16eg Hydref am 5pm, a chewch wybod os hoffem gyfarfod â chi i drafod y swyddi erbyn diwedd y dydd ar ddydd Llun 20fed Hydref.
Bydd y cyfarfodydd ar-lein gyda'r Rheolwr Cynhyrchu, Suzy Sommerville, a’r Pennaeth Cynhyrchu, Hannah Lobb, naill ai ar ddydd Mercher 22ain neu ddydd Iau 23ain Hydref.
Os oes arnoch chi angen y wybodaeth yma mewn unrhyw fformat arall, anfonwch e-bost at jenny.pearce@theatrclwyd.com