Contract Cyfnod Penodol: 24 mis
Rheolwr y Prosiect sy'n gyfrifol am weithredu a chyflawni Treftadaeth Ymlaen, rhaglen ddiweddaraf C&B Cymru.
Bydd deiliad y swydd yn gweithredu fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer y sector Treftadaeth ledled Cymru, gan weithio'n agos gyda'r Prif Weithredwr ac aelodau eraill o'r tîm i sicrhau llwyddiant y fenter.
Mae'r rôl yn gofyn am sgiliau dylanwadu datblygedig iawn, dull greddfol o ddatrys problemau a hanes o ddadansoddi a deall anghenion sefydliadol.
Am fanylion pellach a phecyn cais, cliciwch yma neu e-bostiwch contactus@aandbcymru.org.uk
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12yp, 31 Hydref 2025
Dyddiadau’r cyfweliadau: 6 Tachwedd 2025
Mae C&B Cymru yn gyflogwr Cyfle Cyfartal ac wedi ymrwymo i wella ei amrywiaeth er mwyn adlewyrchu’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.
Byddem yn croesawu’n arbennig geisiadau gan bobl sy’n Anabl, B/byddar a/neu Niwrorywiol, yn ogystal â’r rheini o grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig gan gynnwys cymunedau Roma, Teithwyr.
Mewn ymgais i greu gweithle cyfeillgar i ddyslecsia, rydym yn sicrhau bod gennym ffontiau Darllenadwy