Ydych chi'n rheolwr prosiect medrus sy'n frwd dros y celfyddydau a diwylliant? 

Rydym yn chwilio am Reolwr Prosiect Celfyddydau a Diwylliant brwdfrydig i ymuno â'n tîm yng Ngwasanaethau Diwylliannol Abertawe. Mae'r rôl gyffrous hon yn cynnig cyfle i reoli prosiectau creadigol a diwylliannol sy'n cefnogi portffolio ffyniannus y ddinas o ran y Celfyddydau, Diwylliant a'r Economi Greadigol. 

Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r Rheolwr Strategol i gyflwyno canlyniadau o ansawdd uchel, rheoli dogfennaeth ac adroddiadau, a sicrhau llywodraethu cryf ar draws sawl ffrwd waith.

Rydym yn chwilio am rywun sy'n drefnus iawn, sy'n hyderus wrth weithio gyda rhanddeiliaid amrywiol ac sy'n cael ei ysgogi gan ymrwymiad i gyflawni gwaith effeithiol a reolir yn dda. Os ydych yn barod i wneud cyfraniad ystyrlon at dirwedd greadigol a diwylliannol Abertawe, gwnewch gais nawr. 

Ariennir y swydd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

  • Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno datganiadau o ddiddordeb yw DYDD MERCHER 16 GORFFENNAF 2025
  • Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 23 Gorffennaf 2025.
  • Bydd y cyfweliadau ar gyfer yr ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn cael eu cynnal ar 30 Gorffennaf. Rhaid i chi fod ar gael ar y dyddiad hwn.
  • Yn ddelfrydol, byddech ar gael i ddechrau ar 6 Awst 2025.

Manylion y contract

  • Amser llawn (hybrid) gyda dau ddiwrnod llawn yn y swyddfa (Neuadd y Ddinas Abertawe)
  • £250 y dydd.
  • Contract o fis Awst 2025 i fis Chwefror 2026

Cyflwynwch eich datganiadau o ddiddordeb i:

sarah.morgan2@abertawe.gov.uk

Y dyddiad cau yw 16 Gorffennaf am 12.00pm


 

Dyddiad cau: 16/07/2025