Rydym yn chwilio am Reolwr Marchnata llawrydd i’n helpu i gynllunio a throsglwyddo ymgyrch marchanta digwyddiadau strategol ar gyfer ein rhaglen o ddigwyddiadau haf.

Yn haf 2024, bydd mwy na 350 o’n haelodau ifanc 16-22 oed yn perfformio mewn cyngherddau a chynyrchiadau cyhoeddus ledled Cymru. Mae pob ensemble yn teithio i ganolfannau ledled Cymru, gan gyflwyno perfformiadau o safon broffesiynol, ar ddiwedd cyfnod o ymarferion trylwyr. Mae pob ensemble yn perfformio i safon uchel iawn ac mae nifer o aelodau’r ensembles yn mynd ymlaen bob blwyddyn i weithio yn y diwydiannau creadigol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am yrru gwerthiant tocynnau ar gyfer oddeutu 15 o ddigwyddiadau â thocynnau, mewn canolfannau ledled Cymru gyfan ac yn cwmpasu cerddoriaeth, theatr a dawns. Mae hwn yn gyfle perffaith i weithiwr marchnata proffesiynol, profiadol sydd am helpu i arddangos gwaith perfformwyr mwyaf talentog Cymru.

Tâl: £13,200 yn cynnwys TAW, ar sail hunangyflogedig. Byddem yn disgwyl y byddai’r ffi yn cwmpasu 60 diwrnod llawn o waith, yn seiliedig ar raddfa grynswth o £220 y dydd, dros gyfnod o 24 wythnos (tua 2.5 ddiwrnod yr wythnos).

Dyddiad cau: 11/03/2024