Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyfle cyffrous i Reolwr Gwasanaethau Theatr a Chelfyddydau yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duon. Rydyn ni'n chwilio am arweinydd brwdfrydig, dynamig a medrus sy'n gallu cynorthwyo'r tîm yn ystod cyfnod o drawsnewid a chyflawni ein nodau sefydliadol. Mae'r swydd ar sail contract cyfnod penodol hyd at 1 Mehefin 2025.
Fel Rheolwr Gwasanaethau Theatr a Chelfyddydau, byddwch chi'n arwain y gwaith o gyflawni ein cynllun busnes a nodau strategol:
- Darparu celfyddydau ac adloniant hygyrch, o ansawdd uchel, i bobl Coed Duon a Bwrdeistref Sirol Caerffili
- Gwella iechyd meddwl a chorfforol ein cymuned leol drwy gyflawni prosiectau celfyddydol penodol sy'n mynd i'r afael â'r heriau allweddol y mae pobl yn eu hwynebu gyda ffocws penodol ar y rheini sydd â lefel isel o ymgysylltu â'r celfyddydau a diwylliant
- Hyrwyddo'r Gymraeg a chynorthwyo datblygu perfformiadau a phrosiectau celfyddydol Cymraeg
- Lleihau ein heffaith amgylcheddol a hyrwyddo diwydiant celfyddydau di-garbon yng Nghymru.
Hefyd, bod yn gyfrifol am ddarparu arweinyddiaeth strategol a gweithredol gyda phwyslais penodol ar lywio newid, rheoli arian a phobl, cynhyrchu incwm a rhaglennu. Felly, mae'n hanfodol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu arwain yn hyderus drwy'r cyfnod hwn o drawsnewid a darparu tawelwch, sicrwydd ac arweiniad i'r tîm.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi’r canlynol:
- Addysg hyd at lefel gradd gyda diddordeb brwd yn y celfyddydau
- Gwybodaeth ymarferol am Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith, Iechyd yr Amgylchedd, Cymorth Cyntaf, Asesu Risg, Tân a Thrwyddedu, Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, Deddf Diogelu Data, yn ogystal â Systemau Swyddfa Docynnau cyfrifiadurol
- Agwedd hyblyg at oriau gwaith a'r gallu i weithio y tu allan i oriau swyddfa arferol gan gynnwys gyda'r nos ac ar y penwythnos.