£26,650 y flwyddyn, yn amodol ar adolygiad ym mis Ebrill 2024

 

Rydym yn chwilio am Reolwr Cynhyrchu a Rhaglennu i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a gwireddu rhaglen artistig Theatr y Sherman, gan weithio'n agos gyda'r Tîm Gweithredol a'r Tîm Rhaglennu ar feysydd fel castio, negodi contractau ac archebion/contractau ar gyfer rhaglenni cwmnïau sy’n ymweld â’r Sherman ac ar gyfer Theatr y Sherman ar daith. I godi incwm drwy fynd ati i ddatblygu ystod lawn o weithgareddau a llogi masnachol y gellir eu hymgorffori o amgylch y rhaglen artistig ac sy’n briodol i gymeriad penodol y cwmni. I ddarparu cefnogaeth i'r Tîm Gweithredol yn ôl yr angen.

 

Rydyn ni am i Theatr y Sherman fod yn hygyrch i bawb ac felly mae'n hynod bwysig i ni fod ein tîm yn y theatr yn adlewyrchu'r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ar draws y ddinas a thu hwnt. Felly, rydyn ni’n estyn croeso arbennig i ymgeiswyr o gymunedau ethnig amrywiol a chymunedau B/byddar ac anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein tîm ar hyn o bryd.

 

Dyddiad cau: Hanner dydd, ar Ddydd Mercher 3 Ebrill 2024

Cyfweliadau: Dydd Llun 8 Ebrill 2024

 

Am becyn cais yn Gymraeg neu yn Saesneg, ewch i https://www.shermantheatre.co.uk/amdanom-ni/jobs/?lang=cy 

 

Cyllidir Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydym yn ymroddedig i Gyfleoedd Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig

Dyddiad cau: 03/04/2024