(Rhan-amser – 0.8 CALl)
Lleoliad: Castell y Gelli, Y Gelli Gandryll
Cyflog: £30,369 y flwyddyn pro rata (cyflog gwirioneddol £24,295 y flwyddyn)
Oriau: 32 yr wythnos, i gynnwys gwaith ar y penwythnos (un ym mhob tri i'w gytuno)
Croeso
Mae Ymddiriedolaeth Castell y Gelli yn elusen ifanc sydd ag uchelgais mawr, ac rydyn ni wrthi’n chwilio am rywun sydd eisiau tyfu gyda ni.
Cafodd Castell y Gelli ei godi gan gawres Ganoloesol ac yn fwy diweddar bu’n gartref i un fu’n galw ei hun yn Frenin y Gelli ac a benododd ei geffyl yn Brif Weinidog. Ar ôl cael ei achub, ei adfer a'i adnewyddu, mae Castell y Gelli erbyn hyn yn ganolfan unigryw lle mae canrifoedd o dreftadaeth Gymreig yn cwrdd ag ysbryd creadigol y Gelli Gandryll, a'r cymunedau gwledig cyfagos. Rydyn ni'n gyforiog o hanes, ond heb gael ein boddi ganddo. Rydyn ni'n dathlu’n blynyddoedd mewn ffyrdd sydd weithiau'n chwareus, bob amser yn peri syndod, yn hollol gyfoes ac yn aml yn llawen a lloerig.
Nid unrhyw hen gastell sydd yma, ac nid unrhyw hen swydd yw hon. Fel Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu i ni, cewch gyfle i siapio'r rôl a chael effaith wirioneddol ar sut rydym yn cysylltu â'n cynulleidfaoedd ac yn adeiladu’n cymuned, ar-lein ac yn bersonol.
Ynglŷn â'r rôl
Diben cyffredinol y swydd yw
- gwella, gwarchod ac ehangu enw da Castell y Gelli ymhlith grwpiau cynulleidfa allweddol
- helpu i ddenu rhagor o ymwelwyr
- ymgysylltu â chymuned y Castell a’i chynyddu (gan gynnwys ar-lein)
Bydd y rôl yn cynnwys
Strategaeth
- gweithio gyda'r Cyfarwyddwr a'r Ymddiriedolwyr perthnasol i ddatblygu strategaeth y Castell ar gyfathrebu a datblygu cynulleidfaoedd
- datblygu strategaeth y Castell ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol
Digidol
- datblygu cynnwys digidol i ennyn diddordeb pobl yn y Castell a'i raglen ddigwyddiadau
- rheoli llwyfannau’r castell yn y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys:
- cynllunio ac amserlennu postiadau a chynnwys – gan sicrhau tôn llais a safonau cyson ar draws pob sianel
- monitro ac ymateb i adolygiadau a sylwadau ar Google a Trip Advisor
- gweithio gyda chydweithwyr i sicrhau bod gweithgareddau’n cael eu hybu’n effeithiol ar draws y llwyfannau digidol
- helpu i gadw gwefan y Castell yn gyfredol ac yn ddiddorol
- cydweithio â'r Cyfarwyddwr i lunio cylchlythyrau diddorol a hwylus bob chwarter
- rheoli cyfathrebu allanol cyffredinol Castell y Gelli er mwyn gwarchod a gwella’i enw da
Cyfryngau a Chyfathrebu
- datblygu cynllun cyfathrebu i godi ymwybyddiaeth o'r Castell a'i raglen ddigwyddiadau
- ymchwilio, ysgrifennu a dosbarthu hysbysiadau i'r wasg i'r cyfryngau sy’n cael eu targedu – gan gynnwys rhestrau o ddigwyddiadau'r Castell
- trefnu digwyddiadau cyhoeddusrwydd ar gyfer arddangosfeydd mawr
- coladu a dadansoddi’r sylw yn y cyfryngau a gwerthuso effaith gweithgareddau marchnata a chyfathrebu.
- cydweithio â'r Cyfarwyddwr ar amserlennu’r cysylltiadau â'n haelodau
Arall
- adolygu a mireinio systemau a phrosesau CRM yr Ymddiriedolaeth er mwyn rheoli a segmentu gwybodaeth i gynulleidfaoedd/ymwelwyr yn fwy effeithiol
- cydweithio â'r Cyfarwyddwr ar ymdrechion datblygu – gan gynnwys rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cyllidwyr ac adrodd straeon y cefnogwyr
- rheoli cyllideb farchnata ddirprwyedig
- rheoli gwirfoddolwyr ac ymgynghorwyr cyfathrebu achlysurol
Rydym yn dîm bach a chyfeillgar, yn codi rolau i gefnogi’n gilydd o bryd i'w gilydd.
Yr hyn rydyn ni'n chwilio amdano
Hanfodol
- Cyfathrebu rhagorol mewn ysgrifen ac ar lafar
- Profiad o reoli llwyfannau yn y cyfryngau cymdeithasol
- Sgiliau trefnu cryf
- Y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm bach
Dymunol
- Profiad gyda chysylltiadau â'r wasg/y cyfryngau
- Sgiliau sylfaenol mewn dylunio neu olygu fideo
- Profiad gyda CMS/CRM
- Dealltwriaeth o gynulleidfaoedd diwylliant/treftadaeth
Peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n ticio pob blwch ar y disgrifiad swydd. Y peth pwysicaf yw eich bod chi'n greadigol, yn glyfar, yn hyderus gyda llwyfannau digidol, ac yn gallu ysgrifennu mewn ffordd sy'n ennyn diddordeb pobl. Rydyn ni'n recriwtio ar sail ymagwedd gymaint â phrofiad, felly os ydych chi'n llawn syniadau, wrth eich bodd yn adrodd straeon, ac am fod yn rhan o'n tîm creadigol ac uchelgeisiol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Sut i wneud cais
I wneud cais am y rôl yma, anfonwch CV a llythyr eglurhaol at helen.furnell@haycastletrust.org. Os hoffech gynnwys unrhyw enghreifftiau o waith blaenorol mewn ysgrifen, ar y we neu yn y cyfryngau cymdeithasol, byddem yn hapus i’w gweld.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ar 10 Hydref.
Mae Ymddiriedolaeth Castell y Gelli yn credu mewn cyflogi a dyrchafu pobl ar sail eu gallu i gyflawni’r swydd angenrheidiol yn unig. Gan hynny, wrth recriwtio pobl byddwn yn anwybyddu eu rhywedd, eu statws priodasol, eu hoedran, eu hil, eu lliw, eu cenedligrwydd, eu tarddiad ethnig, eu crefydd a’u cyfeiriadedd rhywiol. Fydd yna ddim gwahaniaethu ar sail anabledd. Mae pob penodiad yn dibynnu ar eirda boddhaol ynglŷn â chyflogaeth.
Os hoffech drafod cyflwyno'ch cais mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar y ffôn 01497 820079 neu drwy’r ebost i tom.true@haycastletrust.org.
Y Ddeddf Diogelu Data
Bydd gwybodaeth a ddarperir gennych fel rhan o'ch cais yn cael ei defnyddio yn y broses recriwtio. Bydd unrhyw ddata amdanoch yn cael ei gadw'n ddiogel gyda mynediad ato wedi'i gyfyngu i'r rhai sy'n ymwneud â delio â'ch cais yn y broses recriwtio.
Unwaith y bydd y broses wedi'i chwblhau, bydd y data ynglŷn ag ymgeiswyr aflwyddiannus yn cael ei storio am 6 mis fan bellaf ac yna ei ddinistrio. Os chi yw'r ymgeisydd llwyddiannus, bydd eich ffurflen gais yn cael ei chadw ac yn ffurfio sail eich cofnod personél.
Bydd gwybodaeth a ddarperir gennych ar y Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal yn cael ei defnyddio i fonitro polisi ac arferion Castell y Gelli o ran cyfle cyfartal. Drwy gyflwyno’ch ffurflen gais ar ôl ei llenwi, rydych chi'n rhoi’ch cydsyniad i'ch data gael ei storio a'i brosesu ar gyfer y broses recriwtio, monitro cyfle cyfartal a'ch cofnod personél os chi fydd yr ymgeisydd llwyddiannus.
I gael rhagor o wybodaeth am Gastell y Gelli, gweler www.haycastletrust.org; Instagram: @haycastletrust; Facebook: Hay Castle Trust