Cyflog:

£45k - 50k (yn ôl sgiliau a phrofiad)

Dyddiadau Cyfweliad:

  • Cyfweliadau Rownd Gyntaf:  Dydd Llun 19 Chwefror 2024 (trwy Zoom)
  • Cyfweliadau Ail Rownd:  Dydd Mercher 6 Mawrth 2024   (Yn bersonol yng Nghaerdydd)

Mae’r Rheolwr Cerddorfa, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn gweithio’n agos gyda gweddill tîm rheoli’r gerddorfa i ysgogi gweledigaeth ar gyfer y gerddorfa fel ased diwylliannol ac artistig allweddol i wlad Cymru ochr yn ochr â’i hymrwymiad presennol i ddarparu cynnwys rhagorol i’w ddarlledu gan y BBC. yn bennaf ar BBC Radio 3.

 

Mae BBC NOW yn gerddorfa’r dyfodol ac mae ganddi adnoddau anhygoel i wneud gwahaniaeth gwirioneddol drwy’r gwaith y mae’n ei gyflawni. Bydd y rôl hon yn allweddol i sicrhau’r gwahaniaeth hwnnw a dod â cherddorion BBC NOW ynghyd â’r newid, i’w cefnogi a sicrhau y gallant barhau i roi eu perfformiad gorau oll ar bob achlysur.

 

Swydd reoli yw’r rôl, sy’n adrodd i’r Cyfarwyddwr ac yn cymryd cyfrifoldeb llawn am reolaeth weithredol o ddydd i ddydd o amserlen brysur y gerddorfa a rheolaeth llinell ein cerddorion, gan arwain y tîm gweithrediadau.

 

Mae gan Gerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC rôl arbennig fel cerddorfa ddarlledu’r BBC a cherddorfa symffoni genedlaethol Cymru. Cefnogir y Gerddorfa’n hael gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac mae’n falch o weithio gyda grŵp rhagorol o arweinyddion.

 

Fel un o chwe Cherddorfa a Chôr y BBC, mae gan y Gerddorfa amserlen brysur o recordiadau, darllediadau a chyngherddau ar gyfer BBC Radio 3, BBC Radio Wales, BBC Radio Cymru, BBC Films a theledu'r BBC. Mae addysg hefyd wrth galon ein gwaith, gan ddatblygu prosiectau arloesol i gynyddu hygyrchedd cerddoriaeth glasurol ac ymgysylltu â chymunedau ledled Cymru.

 

Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol brofiad o reoli cerddorion cerddorfaol, gyda sgiliau trefnu a chyfathrebu eithriadol. Ochr yn ochr â’r rhain, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y gallu i gydymdeimlo â bywyd gwaith cerddor proffesiynol, gan greu’r amgylchedd gorau i’w alluogi i berfformio i’r safonau uchaf. Yn ddelfrydol bydd gennych brofiad sylweddol o reoli digwyddiadau a gweithgareddau cerddorol, a gweithio gyda cherddorion gan gynnwys cynnal adolygiadau llafar unigol. Mae hanes profedig o reoli tîm amrywiol i gyflwyno holl agweddau gweithredol y gerddorfa yn bwysig. Bydd angen i chi hefyd feddu ar wybodaeth drylwyr am bersonél cerddorfaol a gweithdrefnau ariannol, trefniadau cytundebol a chytundebau Undeb y Cerddorion, ynghyd â dealltwriaeth glir o gyllidebau a gallu monitro a chynnal cyllidebau adrannol.

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Lisa Tregale, Cyfarwyddwr, Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC ar 03030 806262

Dyddiad cau: 11/02/2024