Mae Cymru wedi dechrau ar flwyddyn o wrando ar ieithoedd brodorol a'u cysylltiad gwarchodol a’r fam ddaear. Dan arweiniad Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, asiantaeth ryngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru, a gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, Gwrando yw’r thema ar gyfer blwyddyn gyntaf Degawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig yng Nghymru ac mae'n canolbwyntio ar feithrin y grefft o wrando i ddoethineb sy’n perthyn i ieithoedd brodorol a chymunedau sydd mewn perygl ac i'r tir y maent yn byw ynddo.

Mae sgwrs gan y bardd a sylfaenydd yr Academi Heddwch Mererid Hopwood yn galw arnom i wrando ar dirwedd ieithyddol y byd ac yn arbennig "i wrando ar y posibiliadau newydd a'r hen ddoethinebau sydd i'w cael yn amrywiaeth ieithyddol y byd.

Mae’r gair tirlun, a ddewiswyd yn fwriadol, a'r cysylltiad rhwng iaith a'r amgylchedd yn alwad i weithredu – ac i wrando ar amrywiaeth ieithoedd am yr un manteision a werthfawrogir yn amrywiaeth rhywogaethau o fewn y byd naturiol.

 

Wrth lansio ar ddiwrnod Heuldro’r Haf, diwrnod hynod o bwysig i ddiwylliannau brodorol ledled y byd, mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd Cronfa Gwrando, yn gyfle newydd i artistiaid yng Nghymru i wrando a helpu llunio maniffesto creadigol gan Gymry i weithredu er mwyn diogelu ieithoedd sydd mewn perygl yn y byd drwy wrando ac ymwneud gydag artistiaid brodorol ledled y byd.

Wedi’i ysbrydoli gan waith artistiaid yng Nghymru ac yn ryngwladol megis ShoShona Kish a Gareth Bonello, mae Gwrando yn daith ddysgu fydd yn cynnwys cyfle i artistiaid sy’n byw yng Nghymru i wrando ac i rannu yr hyn y clywant ac i ymgysylltu ag ymarfer brodorol ledled y byd drwy ddulliau creadigol. Dan arweiniad Celfyddydau Rhyngwladol Cymru bydd y rhaglen yn gyfle i artistiaid gyd-greu y gweithgareddau ac i greu gofodau saff i wrando ar arweinwyr a meddylwyr diwylliannol brodorol.

Bydd y Gronfa yn agor ar ddiwedd haf 2022, gyda gweithdy i helpu ymgeiswyr yn mis Medi, a dyddiad cau yn yr Hydref. Bydd y daith yn cynnwys gofodau hybrid gan gynnwys cyfleoedd i wrando ar arweinwyr ac artistiaid brodorol, gan sicrhau eu bod eu gwaith yn cael ei hyrwyddo mewn ffordd feddylgar a pharchus. Drwy sesiynau grŵp wedi'u cyd-gynllunio gyda’r artistiaid a phartneriaid, bydd cyfle i artistiaid yng Nghymru i greu maniffesto i ddiogelu ieithoedd a diwylliannau brodorol.

Bydd staff Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn dysgu ynghyd â'r artistiaid a phartneriaid eraill, a bydd y rhaglen yn creu adnoddau a phrotocolau megis y rhai a osodir gan bartneriaid brodorol er mwyn creu mannau mwy diogel a theg.

Rydym yn disgwyl ail-ddysgu am ein hanes a pherthynas Cymry gyda diwylliannau brodorol ledled y byd drwy gymryd rhan mewn sgyrsiau gydag arweinwyr sy’n rhannu barn o gymunedau brodorol mewn tiriogaethau fel Canada, Uganda, Pakistan neu Awstralia, lle mae Cymru wedi bod yn rhan o brosiect gwladychu'r Ymerodraeth Brydeinig. Hyderwn y bydd hyn yn arwain at newid mewn arfer artistig ac yn cyfrannu tuag at dad-golonieiddio ein buddsoddiadau rhyngwladol yn y dyfodol.
 

Bydd rhagor o wybodaeth am raglen a Chronfa Gwrando ar gael yn fuan.

 

Mae’r Degawd yn dilyn Blwyddyn Ieithoedd Brodorol UNESCO yn 2019, pan chwaraeodd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru ran allweddol yn y gwaith o gyflwyno rhaglen o weithgareddau gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Roedd y gweithgareddau hyn yn cynnwys: premiere byw yn y DU gan y canwr brodorol o fri Jeremy Dutcher a gynhaliwyd gan Neuadd Ogwen ym Methesda, symposiwm a gweithdy ar gyfer cerddorion a beirdd o Gymru a Chanada, dirprwyaeth ryngwladol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst, a mwy. Gyda degawd o weithredu o'n blaenau, mae cyfle i Gymru barhau i ddysgu am yr heriau y mae ieithoedd brodorol yn eu hwynebu lle bynnag y bônt yn y byd, drwy gysylltu pobl drwy iaith a diwylliant dros gyfnod hirach.

Bydd y flwyddyn gyntaf hon - Gwrando - yn ymwneud â gwrando a dysgu.

 

Meddai Eluned Haf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru: "Mae gwrando ar ieithoedd brodorol yn ffordd o wrando i’r ddaear ac i ddysgu o'r doethineb brodorol sy'n gysylltiedig â thir. Mae’r argyfwng hinsawdd yn dod ag anghyfiawnder pellach i filoedd o siaradwyr iaith a chymunedau sydd mewn perygl sydd wedi goresgyn gorthrymau ieithyddol a diwylliannol yn sgil coloneiddio. Nid yn unig maent yn wynebu colli tir a chartref ond hefyd colli eu hunaniaeth, iaith, a diwylliant. Gyda’n hôl troed byd-eang daw cyfrifoldeb i warchod amrywiaeth ddiwylliannol y blaned hon. Yng Nghymru rydym yn ymwybodol o'r cysylltiad rhwng colli iaith ac amddiffyn y wlad. Mae’r ddegawd yma yn gyfle i Gymru dyfu i fod yn noddfa ieithyddol sy’n cefnogi, yn amddiffyn ac yn hyrwyddo amrywiaeth ieithyddol a diwylliannau brodorol. Gallwn ddefnyddio deuoliaeth ein gorffennol trefedigaethol i fframio’r daith hon."


Rydym yn cydnabod y bydd cydweithrediadau celfyddol a diwylliannol eisioes yn bodoli rhwng Cymru a grwpiau neu unigolion brodorol. Fel rhan o’n gwrando, hoffem glywed am rhain p’un ai hoffech chi wneud cais i Gronfa Gwrando neu beidio. E-bostiwch info@wai.org.uk gan ddefnyddio’r pwnc ‘Gwrando’ i sôn ychydig fwy am eich gwaith.