Mae Rhaglen Gymunedol Tyfu’n Wyllt yn cefnogi grwpiau i drawsnewid gofodau trefol er budd pobl a bywyd gwyllt trwy blannu ac eiriol dros blanhigion brodorol y DU.
Yn 2024, bydd Tyfu’n Wyllt yn rhoi cyfle i 25 o grwpiau cymunedol o bob cwr o’r DU i ymuno â’r Rhaglen Gymunedol.
Bydd Rhaglen Gymunedol Tyfu’n Wyllt yn cefnogi eich prosiect gyda:
- Grant o £2000 i drawsnewid gofod trefol gyda phlanhigion brodorol y DU, annog bywyd gwyllt, ac i ymgysylltu â'ch cymuned leol.
- Sesiynau hyfforddi ar-lein wedi’u teilwra’n arbennig er mwyn eich cefnogi i drosglwyddo eich prosiect, cynyddu eich gwybodaeth a’ch helpu i ysbrydoli pobl eraill i ymuno gyda chi.
- Cyfleoedd i gysylltu gyda grwpiau eraill sy’n cymryd rhan yn y rhaglen, rhannu profiadau a dysgu oddi wrth eich gilydd.
Mae’r cyfle hwn yn fwy na dim ond cefnogaeth ariannol – rydym yn chwilio am grwpiau fydd yn croesawu popeth sydd gan y rhaglen i’w gynnig.
Am fanylion llawn y meini prawf grant a chymhwysedd, ewch i'n gwefan.
Gweminar - Beth yw'r cyffro gyda Rhaglen Gymunedol Tyfu'n Wyllt?
12.30pm, dydd Mercher 17 Ionawr
Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais, eisiau gwybod mwy, neu os oes gennych gwestiynau i'r tîm Tyfu'n Wyllt?
- Pynciau y byddwn yn eu trafod:
- Beth yw'r Rhaglen Gymunedol Tyfu'n Wyllt?
- Pam planhigion brodorol y Deyrnas Unedig?
- Pa brosiectau sy'n debygol o gael eu dewis gan Tyfu'n Wyllt?
- Sut i wneud cais
Nodwch y bydd y weminar yn cael ei gyflwyno yn Saesneg.
Dyddiad cau: 30/01/2024