Bydd galwad gyntaf Cyfle Symudedd Gogledd Ewrop (NEMO) yn hybu cyfnewid a chydweithio artistig ymhlith ymarferwyr yn y gwledydd Nordig, y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Mae’r alwad yn cael ei hariannu ar y cyd gan y chwech asiantaeth gyllido, a bydd yn cael ei gweinyddu gan Gronfa Diwylliant y Gwledydd Nordig.
Meddai Søren Merrild Staun, cyfarwyddwr dros dro Cronfa Diwylliant y Gwledydd Nordig:
“Rydyn ni’n falch dros ben o gyhoeddi’r cyfle peilot newydd hwn, sy’n adlewyrchiad o uchelgais Cronfa Diwylliant y Gwledydd Nordig i greu llwybrau newydd ar gyfer cydweithio diwylliannol Nordig a rhyngwladol. Drwy’r bartneriaeth hon gyda’r asiantaethau sy’n ariannu’r celfyddydau yng Nghymru, Iwerddon, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban, rydyn ni’n datgan o’r newydd ein hymrwymiad i gryfhau’r posibiliadau i artistiaid a gweithwyr diwylliannol weithio ar draws ffiniau, hyd yn oed mewn cyfnod ansicr. Heddiw, yn fwy nag erioed, mae’n hanfodol meithrin cysylltiadau a chydweithio cryfach rhwng gwledydd ein gilydd er mwyn cynnal a chyfoethogi’r byd diwylliannol rydyn ni’n byw ynddo.”
Yr angen am waith newydd ar y cyd
Mae’r gwledydd Nordig, y Deyrnas Unedig ac Iwerddon yn rhannu gofod rhyngwladol lle ceir tir ffrwythlon ar gyfer cydweithio creadigol. Mae gweithio drwy’r rhanbarth hwn wedi dod yn fwy anodd oherwydd costau uwch a rhwystrau newydd i symudedd, a hynny’n cyfyngu ar gydweithio rhyngwladol. Mae’r alwad yn targedu ymarferwyr celfyddydol unigol sydd ym mlynyddoedd cychwynnol eu gyrfaoedd, gan gydnabod bod y grŵp hwn yn benodol angen cyfleoedd a buddsoddiad yn yr hinsawdd sydd ohoni.
Nod y rhaglen yw meithrin cydweithio rhyngwladol, datblygu rhwydweithiau artistig drwy’r rhanbarth, ac annog mwy o ymarferwyr celfyddydol i weithio’n hyderus gyda phartneriaid rhyngwladol. Yn fwy nag erioed yn y ganrif hon, mae angen dybryd am undod, cydweithredu a chyd-ddealltwriaeth rhwng cymdogion.
Datblygu ar brofiadau blaenorol wrth gydweithio
Mae’r rhaglen beilot newydd yn datblygu ar brofiadau blaenorol y partneriaid wrth ariannu cydweithio rhyngwladol. Mae’n arwydd ymarferol o’r berthynas agosach sydd wedi’i magu dros y pum mlynedd ddiwethaf rhwng yr asiantaethau sy’n ariannu’r celfyddydau yn y gwledydd Nordig a Baltig, y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.
Bydd holl fanylion a meini prawf y rhaglen ar gael ym mis Mehefin 2025
Bydd y rhaglen yn agor i geisiadau ar 18 Awst 2025, a bydd angen cyflwyno’r ceisiadau hynny erbyn 15 Medi 2025. Bydd yr holl ganllawiau a’r wybodaeth am wneud cais ar gael ar wefan Cronfa Diwylliant y Gwledydd Nordig ym mis Mehefin 2025.
Cronfa Diwylliant y Gwledydd Nordig fydd yn gweinyddu’r alwad agored. Gall artistiaid yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon gyflwyno cais i ymwneud ag artistiaid cyfatebol yn y gwledydd Nordig, ac i’r gwrthwyneb, gyda dyfarniadau gwerth hyd at EU9,000 ar gael o gyllideb sy’n werth tua EU300,000 i gyd.
A dyma ragor o newyddion da:
Bydd trydedd rownd Cronfa Ryngwladol y Pedair Cenedl (https://www.creativescotland.com/funding/funding-programmes/targeted-funding/four-nations-international-fund) yn agor ym mis Ionawr 2026, gan helpu ymarferwyr artistig o’r Deyrnas Unedig i gydweithio ag amrywiaeth ehangach o bartneriaid rhyngwladol.
Meddai Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru:
“Mae Cyngor Celfyddydau Cymru a Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn falch o fod yn bartner yn y rhaglen ariannu newydd hon gyda Chronfa Diwylliant y Gwledydd Nordig a’n cydweithwyr ledled y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at weld pa gyfleoedd a gaiff egin artistiaid i gryfhau cysylltiadau a chydweithio’n greadigol â phartneriaid rhyngwladol.”