Mae Bridie Doyle Roberts a Stiwdio C wedi dod ag artistiaid at ei gilydd o bob rhan o Dde Cymru i fod yn rhan o Art Rave | Rêf Celf - labordy creadigol ar gyfer artistiaid sy’n cynnwys diwylliant Pop, Rêf a Gwyliau i archwilio hunaniaeth Cymru gyfoes gan greu gwaith Cymreig newydd.
Gwahoddwyd artistiaid o amrywiol ffurfiau celfyddydol o Dde Cymru, yn neilltuol y rhai sy’n uniaethu fel anabl, Byddar neu niwrowahanol, i chwarae, arbrofi, creu a chydweithio mewn profiadau cymdeithasol a chyfranogol dros y flwyddyn ddiwethaf.
Bydd Art Rave | Rêf Celf yn cynnwys ymyraethau theatrig, darluniau byw neon, gemau, arddangosfeydd rhyngweithiol a hyd yn oed disgo tawel ar ddydd Gwener 9 Mai yn y Deml Heddwch, Caerdydd, rhwng 7 a 9pm. Bydd y digwyddiad yn cael ei gefnogi gan y cyfieithydd BSL Cathryn McShane.
Mae Art Rave | Rêf Celf yn brosiect blwyddyn wedi ei ariannu trwy Llais y Lle gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn archwilio iaith a hunaniaeth Cymru. Bydd yr artistiaid yn rhannu a gwahodd cynulleidfaoedd i chwarae, rhyngweithio, archwilio’r gelfyddyd
a dawnsio mewn disgo tawel gan DJ Mannhoff Dee a DJ Muff Murph. Bydd yr artist amlddisgyblaeth Bridie Doyle-Roberts, sy’n gweithio o Bontypridd, yn rhannu mwy o’i harddangosiadau celf dodrefn yn dilyn ei gosodiad celf ‘Spectrwm o’r Golwg’ y mis
diwethaf. Bydd Emily Rose yn rhannu gwaith celf rhyngweithiol yn archwilio’r cysylltiad rhwng BSL, y Gymraeg a’r Saesneg tra bod Duncan Hallis yn gwahodd sgyrsiau am iaith trwy gemau chwareus. Bydd digwyddiad tynnu llun byw dan arweiniad y perfformiwr Burlesque, Lili Del Ffleur, creadigaethau crefft papur gyda Catrin Hanks-Doyle, troelli cylch hwla a gwaith gwau stryd gyda Lucie Powell, archwiliad chwareus o symud a thechnoleg sain gyda Kai Edward-Fish a phodlediad byw gan Richard Huw Morgan yn trafod diwylliant a hunaniaeth Gymreig gyfoes.
Bydd y profiad yn rhannol yn oriel gelf, rhannol yn sioe, rhannol yn noson allan gyda gweithgareddau hwyliog a chreadigol i gymryd rhan ynddyn nhw fel tynnu llun a chrefft papur wedi ei osod yn neuadd farmor hardd y Deml Heddwch. Bydd yn wledd drochol i’r synhwyrau gyda lliwiau neon a mosaics pelenni drych, goleuadau, cerddoriaeth, dawns a darnau celf cerfluniol. Bydd clustffonau disgo tawel yn darparu gwahanol sianeli i ddewis o’u plith o ddarnau cerddoriaeth a darnau gair ar lafar i’w profi fel y dymunwch cyn gwylio’r artistiaid yn perfformio ymyraethau theatrig i draciau cerddoriaeth a gyfansoddwyd yn arbennig gan Duncan Hallis, Bridie Doyle- Roberts, Kai Edward-Fish a Mannhoff Dee.
Bydd cyfleoedd i ymarfer a dysgu geiriau Cymraeg, os ydych yn ddechreuwr llwyr neu yn siaradwr rhugl trwy gemau a sgyrsiau rhyngweithiol.
Roedd Bridie Doyle-Roberts, oedd yn brif drefnwr y prosiect, yn awyddus i greu cyfleoedd i’r Gymraeg a hunaniaeth gael eu harchwilio ar gyfer artistiaid a chynulleidfaoedd.
“Mewn prosiectau blaenorol yr wyf wedi gweithio arnyn nhw, roeddwn yn gweld bod artistiaid yn awyddus i gynnwys y Gymraeg yn eu gwaith, ond nid yw llawer yn gwybod ble i ddechrau ac mae arnyn nhw angen mwy o gefnogaeth i wneud hynny. Mae’r diffyg lleoedd creadigol ar gyfer archwilio a chydweithio hefyd wedi ei godi, yn neilltuol pan ddaw yn gelfyddydau seiliedig ar stiwdio sy’n gofyn am leoedd anhrefnus, a chyfleoedd i arddangos. Mae’r prosiect hwn yn cyffwrdd â hygyrchedd o safbwynt yr anabl, Byddar a’r niwrowahanol, lle mae’n ymddangos bod anfantais pan ddaw’n gyswllt â’r Gymraeg, ac mae’n gofyn; beth yw Cymreigrwydd cyfoes sy’n cyrraedd tu hwnt i’n traddodiadau? A sut yr ydym yn dychmygu dyfodol i’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru sy’n ymdrin â hyn mewn ffyrdd sy’n hygyrch i ragor o bobl?”
“Roedd hwn yn gyfle gwirioneddol gyffrous i mi. Mae cael gwybod y gallaf ymgolli mewn creadigrwydd Cymreig ac o’r diwedd gael y cyfle cyntaf i archwilio a gwella fy nghyswllt â iaith a diwylliant Cymru. Fel person Byddar, roeddwn yn cael fy nghau allan o ddosbarthiadau Cymraeg gan y dywedwyd wrthyf bod raid i mi ganolbwyntio ar fy therapi lleferydd. Felly fe gollais gyfle ac ni ches y cyfle erioed i ddysgu’r iaith.
Mae’n codi braw ble i ddechrau dysgu a dod o hyd i’r lle/pobl sy’n derbyn pwy ydych chi a’ch cefnogi. Rwy’n meddwl bod y prosiect hwn yn wych i rywun fel fi sydd ddim yn gyfforddus i fynd i ddosbarthiadau Cymraeg sylfaenol. Ond mae’n cynnig lle diogel, yn dysgu fel yr wyf yn mynd ymlaen ac archwilio fy nghyswllt a bod yn agored i ddysgu.” Emily Rose, Artist Byddar o Gaerdydd.
Bydd Birdie Doyle Roberts a Stiwdio C yn cyflwyno Art Rave | Rêf Celf ar ddydd Gwener 9 Mai yn y Deml Heddwch, Caerdydd rhwng 7 a 9pm. Bydd y digwyddiad yn cael ei gefnogi gan y cyfieithydd BSL Cathryn McShane.
Bydd taith gyffwrdd ar gael hefyd am 6.30pm a bydd rhannau o’r digwyddiad gyda chapsiynau ac yn cael ei gyfieithu. Cysylltwch â Bridie am ragor o wybodaeth am hygyrchedd.
Mae tocynnau yn £5 ac ar gael o Eventbrite:
Bydd y labordy creadigol ar agor i’r cyhoedd yn Neuadd Trehopcyn, Pontypridd i ddod a chymryd rhan mewn creu celf ac ymarfer eich Cymraeg yn yr wythnos cyn y digwyddiad. Rhagor o wybodaeth yn bridiedoyle.co.uk
Cefnogir Art Rave | Rêf Celf gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru, Y Loteri, Citrus Arts a Valleys Kidz