Heddiw, mae’r cwmni dosbarthu a hyrwyddo cerddoriaeth PYST yn cyhoeddi cronfa beilot newydd wedi’i anelu at gynnal a datblygu gweithgaredd cerddoriaeth llawr gwlad yng Nghymru. Mae gweithgaredd cerddoriaeth yng Nghymru yn ffynnu, fel profir gan y nifer gynyddol o labeli recordio, ac mae’r gronfa hon yn anelu i danategu sefydliadau nad oes cyfleoedd ariannu amlwg ar eu cyfer oherwydd eu maint a’u natur. Bydd y gronfa hon hefyd yn galluogi mwy o weithgaredd yn niwydiant cerddoriaeth Cymru, cynyddu ymgysylltiad a chyfranogiad ar lefel llawr gwlad, a helpu i ddatblygu gwytnwch hirdymor diwydiant cerddoriaeth Cymru.

Bydd y gronfa yn cefnogi ystod eang o weithgareddau; megis recordio a hyrwyddo recordiau, ffilmio rhaglenni dogfen a fideos cerddorol, darparu gweithdai a digwyddiadau rhwydweithio, ysgrifennu blogiau a chylchgronau, recordio podlediadau a mwy. Bydd y gefnogaeth hon yn galluogi i labeli recordio a sefydliadau cerddoriaeth i gynllunio, darparu ac ehangu ar ymgyrchoedd a phrosiectau newydd yn hyderus.

Meddai Alun Llwyd, Prif Weithredwr PYST: ‘Y sefydliadau yma – labeli ac eraill – yw asgwrn cefn gweithgaredd cerddoriaeth yng Nghymru, ac mae ‘na fwlch o fewn cyfleoedd ariannu ar gyfer y math yma o weithgareddau wedi bodoli hyd yma. Gyda chefnogaeth newydd  gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, gallwn beilota’r gronfa hon a dysgu mwy am sut gallwn gydweithio’n well er mwyn cynnal yr ecosystem gefnogol yma.’

Ychwanegodd Jack Sargeant, Y Gweinidog Diwylliant: ‘Mae’r gefnogaeth arbenigol yma yn hanfodol i’r gwneuthurwyr creadigol sydd yn gweithio’n ddiflino ar draws pob agwedd o ddiwydiant cerddoriaeth Cymru. Drwy gefnogi gweithgareddau creu cynnwys, rhwydweithio a marchnata, rydw i’n obeithiol y byddwn yn gallu helpu datblygu’r diwydiant ymhellach a chryfhau talent cerddoriaeth llawer gwlad yma yng Nghymru’.

Cyfanswm y gronfa ydy £75,000 ac mae sefydliadau yn gallu ymgeisio am hyd at £5,000 yr un. Mae’r gronfa yn cael ei gweinyddu gan PYST ar ran Cymru Greadigol.

Mae’r gronfa yn agor ar gyfer ceisiadau ar Awst 13eg ac yn cau Medi 3ydd, a bydd gweithgaredd o bob iaith yn cael eu hystyried. Bydd y ceisiadau’n cael eu dethol gan banel annibynnol.

Am fwy o wybodaeth am y gronfa, cysylltwch gyda alun@pyst.net