Drama afaelgar sy’n cyfleu storïau menywod am droseddu, cyfiawnder a gofal plant

Bydd Papertrial, mewn cysylltiad â Clean Break, yn teithio gyda drama rymus Siân Owen, A Visit ar draws Cymru'r mis Hydref hwn.  

Mae A Visit yn ddrama am droseddu, cyfiawnder a gofal plant a phwy sy’n gofalu am y plant pan fydd mam yn cael ei hanfon i’r carchar.

Creodd Papertrail a Siân Owen ddarn gafaelgar o theatr wedi ei ysbrydoli gan storïau o’r byd go iawn am y menywod a’r bobl ifanc y maen nhw wedi gweithio gyda nhw.

Ysbrydolwyd y dramodydd Siân Owen (Under Milk Wood y National Theatre a dan gomisiwn ar gyfer rhaglen Theatr Cymru yn 2026) i ysgrifennu am yr effaith y mae hyn yn ei gael ar fenywod Cymru a’u teuluoedd, a gosododd y ddrama yn ei thref ei hun, Aberdâr.

Ers 2019 mae Papertrail a Siân Owen, gyda chefnogaeth Clean Break, wedi cyfarfod a chyfweld menywod a phlant y mae carcharu’r fam wedi effeithio arnyn nhw o Gymru a Lloegr. Fe wnaethant hefyd gyfarfod academyddion a gweithwyr cymdeithasol sydd wedi gweithio gyda theuluoedd yn y system cyfiawnder troseddol a charchardai.

Mae’r cast cryf o fenywod yn unig yn cynnwys Siwan Morris (Gwaith Cartref, Wolfblood, Caerdydd, Skins a chynyrchiadau Theatr Cymru) a Bethan McLean (Theatr Sherman a Theatr Soar - The Merthyr Stigmatist a Bwmp a ‘Yr Amgueddfa’ (S4C) a Lizzie Caitlin Bennett (Newydd raddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru).

Syniad gan Sylfaenydd a Chyd-gynhyrchydd Artistig Papertrail, Bridget Keehan oedd A Visit, sydd wedi ymweld â charchardai ei hun ac a oedd am gyfleu rhywfaint o’r realiti hwn i gynulleidfaoedd.

“Mae Papertrail yn gwmni sy’n rhoi llwyfan i leisiau nad ydynt yn cael eu clywed ac mae bod yn blentyn gyda rhiant yn y carchar yn stori nad yw byth bron yn cael ei dweud. Mae ein drama ddiweddaraf, A Visit, yn gwahodd y gynulleidfa i gamau i esgidiau’r cymeriadau a dychmygu sut y maen nhw’n teimlo. Perfformiwyd y sioe'r llynedd ym Mhontypridd ac fe gafodd effaith wirioneddol ar gynulleidfaoedd, gan eu galluogi i ddeall beth sy’n digwydd i deuluoedd a phlant sydd yn y sefyllfa yma. Rydym hefyd am dynnu sylw at yr heriau penodol a wynebir gan fenywod a’u teuluoedd yng Nghymru, a’r pellter mawr iawn y mae’n rhaid i blant ei deithio i weld eu mam.” Bridget Keehan.

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw garchardai i fenywod yng Nghymru. Rhaid i deuluoedd deithio cyfartaledd o 3 i 4 awr tu allan i Gymru i weld eu perthnasau yn y carchar, gan gludo plant ifanc gyda nhw ar gyfer y profiad emosiynol iawn hwn, mae hyn yn llawer mwy na’r rhai sy’n byw yn Lloegr.

Cyhoeddodd Clean Break erthygl yn 2018 oedd yn cynnwys ymchwil am fenywod yn y carchardai, a’r rhai o Gymru. Datgela’r ymchwil rywfaint o’r pris emosiynol y mae carchariad mam yn ei godi ar blant, ‘mae tri chwarter y menywod sydd yn y carchar yn famau, ac mae gan ddau draean ohonynt blant dan ddeunaw oed’ (Maruna a Liebling, 2005), gyda llawer o deuluoedd ifanc yn gorfod wynebu teithio pellter mawr iawn. Roedd yr erthygl hefyd yn cyfeirio at astudiaeth gan y Swyddfa Gartref sy’n dangos, i 85% o famau, mai’r carchar oedd y tro cyntaf iddyn nhw gael eu gwahanu oddi wrth eu plant am unrhyw gyfnod sylweddol (Women in Prison, 2018). Cofnodwyd mai gwahanu oddi wrth eu plant yw’r agwedd fwyaf poenus o garchariad i famau (Maruna a Liebling, 2005).

Yn yr ychydig fisoedd diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu bod am weld mwy o ddedfrydu yn y gymuned i fenywod sy’n troseddu, gyda 75% o fenywod sy’n cael eu carcharu yn treulio llai na 12 mis yn y carchar a 60% yn cofnodi eu bod yn dioddef trais domestig (Ffynhonnell: Y Weinyddiaeth Gyfiawnder). Amcangyfrifir, yn 2020, bod mwy na 17,500 o blant wedi eu gwahanu oddi wrth eu mamau trwy garchariad. Gall carcharu rhieni ddyblu’r risg mewn plant ag iechyd meddwl gwael a golygu eu bod mewn mwy o risg o dlodi, iechyd gwael a chartref ansicr. (Ffynhonnell: Prison Reform Trust).

Yn dilyn y perfformiad bydd trafodaeth fer am y themâu y mae’r sioe yn eu codi.

Bydd A Visit yn teithio i:
Theatr Sherman, Caerdydd - 7 a 8 Hydref 2025 
Theatr y Grand, Abertawe - 15 Hydref 2025
Theatr Soar, Merthyr Tudful - 17 Hydref 2025
Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth - 24 Hydref 2025.

Mae pob perfformiad yn cynnwys capsiynau integredig a dwy ddehonglydd BSL - Claire Anderson a Cathryn McShane
Cyfarwyddyd oedran 12+
Rhybudd Cynnwys: Mae’r ddrama yn cynnwys cyfeiriadau at gyflenwi cyffuriau anghyfreithlon a charcharu.

Tocynnau £10-£16 a Ffi Archebu mewn rhai lleoliadau

Ceir rhagor o wybodaeth am A Visit a’r gweithdai yn papertrail.org.uk

Crëwyd A Visit gan Papertrail mewn cysylltiad â Clean Break. Fe’i cefnogwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru