Mae’r cerddorion adnabyddus Angharad Jenkins a Huw Warren yn lansio prosiect newydd wedi'i ysbrydoli gan gerddoriaeth werin Abertawe a Gŵyr.

Mewn prosiect a gomisiynwyd gan Menter Iaith Abertawe ac a gefnogwyd gan Tŷ Cerdd, mae'r cerddorion wedi ymchwilio i ganeuon gwerin presennol Gŵyr ac Abertawe drwy ymgysylltu â'r gymuned leol ac archwilio archifau amrywiol.

Mae'r prosiect yn taflu goleuni newydd ar ganeuon a straeon presennol yr ardal, yn ogystal â defnyddio tirwedd Gŵyr – man geni'r ddau gerddor – fel ysbrydoliaeth ar gyfer cyfansoddiadau newydd. Y canlyniad yw rhaglen ddwyieithog newydd sbon sy'n cyfuno'r hen a'r newydd mewn perfformiad bywiog, sy'n herio ffiniau genres ac yn tynnu o ddylanwadau gwerin a jazz. Bydd perfformiad cyntaf y gwaith newydd hwn yn cael ei gynnal yn Eglwys All Saints, Mwmbwls ar nos Iau’r 6ed o Dachwedd. Bydd y perfformiad hefyd yn cael ei recordio.

"Mae'r prosiect hwn wedi rhoi cyfle i ni edrych ar orffennol diwylliannol cyfoethog ac amrywiol Abertawe, ac i gyflwyno ychydig o'r straeon hyn drwy gerddoriaeth," meddai Angharad Jenkins. “Pan fyddwch chi'n meddwl am gerddoriaeth werin yng Ngŵyr, mae un enw yn dod i'r meddwl. Mae Phil Tanner o Langennith yn cael ei ystyried fel un o gantorion maes mwyaf Prydain. Er y byddwn yn perfformio cwpl o'i ganeuon, roeddem hefyd eisiau tynnu sylw at rai caneuon gwerin llai adnabyddus am Abertawe ei hun. Disgwyliwch glywed caneuon am rasys ceffylau Abertawe, llongau ym Mhwlldu, a rhai alawon dawns sy'n deillio o'r ardal. Mae wedi bod yn bleser dod i adnabod treftadaeth ddiwylliannol ein tref enedigol yn y modd hwn."

Dywedodd Tomos Jones, Prif Swyddog Menter Iaith Abertawe, - "Mae'r prosiect hwn o ddiddordeb arbennig i'n gwaith ni fel Menter gan fod llawer o'r archifau a'r recordiadau presennol o ganeuon o'r ardal yn canolbwyntio ar y rhai a ysgrifennwyd yn Saesneg, ond mae'n anoddach dod o hyd i gofnodion o'r caneuon Cymraeg a gyfansoddwyd yn yr ardal. Trwy eu cyflwyno ochr yn ochr â'r caneuon Saesneg, bydd y prosiect hwn yn helpu rhoi statws cyfartal iddynt ac yn adlewyrchu treftadaeth a natur ddwyieithog unigryw'r ardal yn llawn."

Mae Huw Warren ac Angharad Jenkins yn gerddorion enwog o feysydd jazz a cherddoriaeth draddodiadol yng Nghymru. Gyda'r ddau gerddor yn hanu o Abertawe, mae'n naturiol i'r ddau archwilio cerddoriaeth eu tref enedigol a'r ardaloedd cyfagos yn y prosiect hwn.

Mae Angharad Jenkins yn chwaraewr ffidil, cyfansoddwr caneuon, a chydweithiwr creadigol o Abertawe. Mae'n debyg ei bod hi'n fwyaf adnabyddus am ei gwaith yn y byd gwerin ac acwstig ar ôl dechrau ei gyrfa gerddorol gyda'r band gwerin arobryn Calan. Mae hi'n chwaraewr angerddol ac yn llysgennad dros gerddoriaeth draddodiadol Gymreig ond mae hefyd yn gyfansoddwr cyson o gerddoriaeth newydd – alawon gwerin offerynnol, yn ogystal â chaneuon newydd. Cafodd ei halbwm unigol cyntaf 'Motherland' ei henwebu ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2024.

Mae Huw Warren yn bianydd, cyfansoddwr ac addysgwr. Mae wedi ennill enw da yn rhyngwladol am greu cerddoriaeth arloesol ac eclectig yn ystod ei yrfa ddeng mlynedd ar hugain. Yr un mor gartrefol yn croesi bydoedd cerddoriaeth Jazz, y Byd a Chyfoes; mae ganddo lais unigryw a phersonol ac mae wedi cydweithio ag amrywiaeth enfawr o artistiaid ledled y byd. Dyfarnwyd iddo wobr Jazz y BBC am Arloesedd, a Gwobr Cymru Greadigol CCC, ac mae hefyd wedi ysgrifennu ar gyfer nifer o ensembles gan gynnwys Cerddorfa Siambr yr Alban, Cerddorfa Siambr Cymru, a Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ymhlith eraill. Ar hyn o bryd mae'n ddarlithydd a thiwtor jazz yn CBCDC, Caerdydd, ac mae hefyd yn bennaeth Jazz Ensembles ym Mhrifysgol Caerdydd.

Daeth Angharad a Huw at ei gilydd am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2020 pan gawsant eu comisiynu gan yr Eisteddfod Genedlaethol i gyflwyno cerddoriaeth newydd ar gyfer rhaglen Nadolig ar-lein 'Advent Amgen' y sefydliad. Wedi'u hysbrydoli gan hen garolau Plygain, gweithiodd y ddeuawd gyda'i gilydd i drefnu ac ail-ddychmygu'r deunydd traddodiadol hwn ar gyfer albwm 'Calennig', a ryddhawyd ar label Sienco yn 2023. Ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno, perfformiodd y ddeuawd yn fyw ar raglen Loose Ends BBC Radio 4, yn ogystal â chyngerdd arbennig yn CBCDC, ochr yn ochr ag ensemble 15 darn o fyfyrwyr jazz. Maent hefyd wedi perfformio gyda'i gilydd ym Mhenwythnos Jazz Caerfaddon, ac wedi cael eu chwarae ar radio ar BBC Radio 3, Radio 2, Radio Cymru a Radio Wales.

Tocynnau ar werth nawr – dim ond £10 o flaen llaw.

Ymholiadau: swyddfa@menterabertawe.org