£101,830 + pensiwn rhagorol. Efallai y bydd y Prif Weithredwr yn gymwys i gael bonws blynyddol ychwanegol, yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, ar ôl cwblhau'r holl amcanion strategol yn llwyddiannus.

Caerdydd, Caerfyrddin neu Bae Colwyn. Disgwylir i’r Prif Weithredwr dreulio lleiafswm o 8 diwrnod y mis yn swyddfa Caerdydd.

A ydych yn rhannu ein gweledigaeth o’r celfyddydau a ariennir yn gyhoeddus fel ‘er budd pawb’? Ydych chi'n gweld mynediad a rhagoriaeth greadigol yn datblygu law yn llaw? Yna helpwch ni i gyflawni ein gweledigaeth - ‘Cymru greadigol lle mae’r celfyddydau yn ganolog i fywyd a lles y genedl’

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn bodoli i gefnogi a datblygu'r celfyddydau yng Nghymru. Mae'n gwneud hynny er budd pobl ledled Cymru ac i hyrwyddo celfyddydau Cymru yn rhyngwladol. Wedi'i sefydlu gan y Siarter Frenhinol, mae hefyd yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, yn ddosbarthwr y Loteri Genedlaethol ac yn Elusen gofrestredig.

Mae rôl y Prif Weithredwr yn cynnig cwmpas a chyfle arbennig. Mae golygfa gelf fywiog yng Nghymru y mae angen arweinyddiaeth weledigaethol a chydweithredol ar ei datblygiad. Mae’r Cyngor Celfyddydau wedi ymrwymo i brif ffrydio'r celfyddydau yng nghymdeithas Cymru trwy ymrwymiad i gynhwysiant amrywiol a thrwy bartneriaethau arloesol, rhagorol yn y sectorau addysg ac iechyd.

Y Prif Weithredwr yw uwch aelod o staff y Cyngor Celfyddydau. Maen nhw'n arwain yr Uwch Dîm Arwain (UDA) pum person, a'r pedwar aelod arall yn Gyfarwyddwyr. Yr UDA yw prif gorff gwneud penderfyniadau gweithredol y Cyngor. Ei rôl yw llunio amcanion a blaenoriaethau cyffredinol y Cyngor Celfyddydau, ac arwain y gwaith o gyflawni polisi. Mae’r UDA hefyd yn gyfrifol am reoli cyllid y Cyngor Celfyddydau, ei adnoddau a'i bobl yn effeithiol, gan sicrhau bod busnes y Cyngor yn cael ei reoli mewn modd atebol a phriodol.

Pedwar prif ffocws cyfredol y rôl yw:

  • cynyddu cydraddoldeb mynediad i'r celfyddydau ar draws cymunedau Cymru a meithrin gwytnwch a chynaliadwyedd y sector;
  • ymgorffori strategaeth iaith Gymraeg newydd yng ngwaith y Cyngor;
  • arwain ein Hadolygiad Buddsoddi nesaf a fydd yn cyflwyno Portffolio Celfyddydol newydd o sefydliadau a ariennir gan refeniw ar gyfer Ebrill 2024; a
  • datblygu ein Cynllun Corfforaethol newydd 2023-28.

Mae hon yn rôl gyhoeddus proffil uchel sy'n gofyn am arbenigedd, awdurdod a gwytnwch. Rydym yn chwilio am gyfathrebwr effeithiol, sy'n gallu ymateb yn ddeinamig i'r heriau strategol sy'n wynebu’r Cyngor Celfyddydau a sector y celfyddydau, yn enwedig mewn perthynas â datblygu mwy o fynediad cyfartal i'r celfyddydau.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad proffesiynol o weithredu ar lefel uwch reoli o fewn amgylchedd ariannol cymhleth ac sy'n atebol i'r cyhoedd. Mae profiad o weithio yn y celfyddydau, y diwydiannau creadigol neu’r sector diwylliannol yn hanfodol. Dylai ymgeiswyr fod yn gyfarwydd â chymhlethdodau a nawsau’r ffordd y mae corff cyhoeddus yn ymdrin â’i berthynas â rhanddeiliaid allweddol, sef y weinyddiaeth ddatganoledig yng Nghymru yn yr achos hwn. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o nodweddion arbennig cymdeithas Gymreig, gan gynnwys ei diwylliant dwyieithog. Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol yn hytrach na hanfodol ar gyfer y swydd hon. Fodd bynnag, os nad yw’r unigolyn penodedig yn rhugl yn y Gymraeg bydd yn cael ei h/annog a’i ch/gefnogi i wneud cynnydd da wrth ddysgu’r Gymraeg fel y gall ddefnyddio’r iaith wrth gyflawni ei dd/dyletswyddau ac ar lefel sydd y tu hwnt i ddefnydd o ychydig o ymadroddion sylfaenol. Byddwn yn darparu mynediad i wersi Cymraeg, hyfforddiant a chefnogaeth bersonol.

Rydym yn cynnig ystod eang o fudd-daliadau gan gynnwys gwyliau hael a phensiwn cyflog terfynol.

Gellir lawrlwytho Pecyn Recriwtio cynhwysfawr, gan gynnwys amserlen a manylion ar sut i wneud cais, o https://www.aeminternational.co.uk/current-opportunities neu https://arts.wales/cy/newyddion-swyddi-chyfleoedd

I gael rhagor o wybodaeth am Gyngor Celfyddydau Cymru, ewch i https://arts.wales/cy

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael eglurhad ar unrhyw fater ynghylch y cyfle hwn, anfonwch eich cwestiynau at AD@celf.cymru erbyn 5:00 pm ar ddydd Mercher 4 Mai. Rydym yn croesawu gohebiaeth yng Nghymraeg ac yn Saesneg. Bydd pob cwestiwn yn ddienw ac yn cael ei gyhoeddi gydag atebion cyfatebol, yn ddwyieithog, erbyn 5:00 pm ar ddydd Gwener 6 Mai.

Rydym yn argymell nad yw darpar ymgeiswyr yn cyflwyno eu ceisiadau cyn y dyddiad cyhoeddi ar gyfer ymatebion i gwestiynau gan y gallai gwybodaeth bwysig gael ei chyfleu hyd at y pwynt hwnnw.

Dyddiad cau ar gyfer cwestiynau: 5:00 pm ar ddydd Mercher 4 Mai 2022

Dyddiad cau: 12:00 ganol dydd ar ddydd Gwener 13 Mai 2022

Dyddiadau cyfweld: dydd Mawrth 5 neu dydd Mercher 6 Gorffennaf 2022

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyflogwr cynhwysol, a dymunwn adlewyrchu'r cymunedau amrywiol yr ydym yn eu gwasanaethu. Mae ceisiadau gan bobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol a grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu hannog a'u croesawu'n gynnes. Croesewir ceisiadau yng Nghymraeg neu Saesneg a byddwn yn gohebu â chi yn eich dewis iaith. Ni fydd cais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei ddewis ar gyfer swyddi yn ôl eu haddasrwydd ar gyfer y rôl yn unig.

Os oes gennych anabledd, nodwch yn eich cais a oes angen unrhyw gymorth neu addasiadau penodol arnoch ar gyfer unrhyw gyfweliad.

 

Dogfen19.04.2022

Briff yr Ymgeisydd ar gyfer rôl Prif Weithredwr

Polisiau22.01.2024

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Dogfen09.05.2022

Cwestiynau ac Atebion Recriwtio Prif Weithredwr