Dewch i arwain pennod newydd flaengar i ddiwylliant yng nghanol Cymru

Mae Theatr Brycheiniog, a leolir ynghanol tirwedd eithriadol Bannau Brycheiniog yng nghanolbarth Cymru, yn chwilio am arweinydd eithriadol – rhywun sy’n meddu ar weledigaeth, gwytnwch a mentergarwch masnachol – i helpu i roi siâp ar bennod nesaf ein trawsnewidiad.

Dyma gyfle prin i arwain sefydliad diwylliannol sy’n annwyl gan gynifer, tuag at ddyfodol bywiog a chynaliadwy; dyfodol ble mae creadigrwydd yn ffynnu, ble mae pobl yn ymgysylltu, a ble mae’r celfyddydau a diwylliant yn chwarae rhan hanfodol ym mywydau ein cymunedau.

Rydyn ni eisoes wedi gosod sylfeini cryfion:

  • Mae diweddariad cyfalaf gwerth £2 miliwn wedi adfywio ein lleoliad.
  • Mae prydles 25 mlynedd newydd yn sicrhau ein lle ynghanol y gymuned.
  • Mae ein Cyfarwyddwr Dros Dro wedi hwyluso ein strwythur, cryfhau’r rhaglen, ac agor ffynonellau incwm newydd.

Nawr, dyma ni’n barod i gymryd y cam nesaf – ac rydyn ni’n chwilio am rywun i arwain y newid hwnnw; rhywun all droi gweledigaeth yn weithredu, sy’n barod i ail-ddychmygu beth all theatr fod, nid yn unig fel lleoliad, ond fel canolbwynt creadigol, lleoliad dinesig, a chartref diwylliannol i bawb.

Byddwch chi’n darparu: 

  • Cofnod profedig o arwain gyda gwytnwch a gweledigaeth strategol
  • Profiad helaeth ar y lefel uwch yn y sector gelfyddydol neu elusennol
  • Dealltwriaeth ariannol gref a record lwyddiannus o godi arian
  • Meddylfryd entrepreneuraidd gyda brwdfrydedd ac egni creadigol
  • Gallu profedig i arwain o ran arloesi ac ysbrydoli newid trawsnewidiol
  • Ymrwymiad i rymuso a datblygu tîm a thyfu sefydliad
  • Llwyddiant y gellir ei ddangos o ddarparu newid ystyrlon mewn cyd-destun celfyddydol neu elusennol
  • Eiriolwr angerddol dros y celfyddydau a’u grym i gyfoethogi a thrawsnewid bywydau.

Rydyn ni wedi ymrwymo i adeiladu sefydliad amrywiol a chynhwysol. Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bobl sydd â phrofiad byw o anabledd a niwroamrywiaeth, cymunedau sydd ar yr ymylon cymdeithasol-economaidd, ac o’r mwyafrif byd-eang. 

Os ydych chi’n arweinydd cryf, sy’n llawn dychymyg ac wedi eich symbylu, sy’n edrych am gyfle i wneud argraff go iawn – a gwneud hyn oll yn un o leoedd harddaf Prydain – byddem ni’n falch iawn o glywed oddi wrthych. 
 

Dyddiad cau: 26/08/2025