Mae'n bleser gan Gyngor Celfyddydau Cymru gyhoeddi cyfres o Ddosbarthiadau Meistr Celfyddydau Mynegiannol am ddim ar gyfer dysgwyr.

Wrth i ysgolion weithio'n ddiwyd i addasu i ffyrdd newydd o ryngweithio â'u dysgwyr, rydym ninnau hefyd yn parhau i archwilio sut y gallwn gefnogi ysgolion i wireddu parhad dysgu a rhoi'r celfyddydau a chreadigrwydd wrth galon addysg.

Cyfres o Ddosbarthiadau Meistr

O animeiddio i beintio i ddawnsio a ffilmio - mae sesiwn greadigol ar gael at ddant pawb. Dewch o hyd i'r rhestr lawn o ddosbarthiadau meistr ar y Parth Dysgu Creadigol.

Bydd ein Dosbarth Meistr nesaf - Animeiddio gydag Aron Evans - yn cael ei gynnal ddydd Mercher Mehefin 17. Croeso cynnes i bawb.

 

Mae Dosbarthiadau Meistr Celfyddydau Mynegiannol yn rhan o Dysgu creadigol drwy'r celfyddydau. Ariennir Dysgu creadigol drwy'r celfyddydau ar y cyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru sy'n rhoi'r celfyddydau a chreadigrwydd wrth galon addysg.