Mi fydd cyd-gynhyrchiad Theatr y Sherman gyda Theatr3, Port Talbot Gotta Banksy, yn archwilio effaith murlun enwog Banksy, Season’s Greetings, a ymddangosodd ar garej gweithiwr dur ym Mhort Talbot yn 2018, ar y gymuned.
Rhagfyr 2018. Mae Banksy yn rhoi anrheg Nadolig unigryw i Bort Talbot gan ei wneud yn destun trafod rhyngwladol pan fydd un o'i furluniau yn ymddangos ar garej gweithiwr dur lleol.
2024. Mae Port Talbot yn y newyddion unwaith eto pan mae diwedd cynhyrchu dur drwy ffwrnais chwyth, diwydiant sydd mor hanfodol i’r dref, yn creu cyfnod newydd o ansicrwydd.
Mae’r ddrama newydd rymus a thosturiol hon yn dathlu celf stryd, pŵer pobl a gwydnwch cymunedau. Mae’r sgript wedi’i saernïo o dros 100 awr o gyfweliadau â phobl leol, a gynhaliwyd dros chwe blynedd, ac mae’n adrodd stori anhygoel y ‘Port Talbot Banksy’ yn lleisiau dilys y gymuned, wedi’u bwydo’n fyw i’r actorion trwy glustffonau.
Ysgrifennwyd Port Talbot Gotta Banksy gan Paul Jenkins a Tracy Harris, Cyfarwyddwyr Artistig Theatr3, ac fe’i cyfarwyddwyd gan Paul. Wrth gyhoeddi manylion y ddrama, dywedodd Paul: “Dyma fydd y tro cyntaf i stori effaith Banksy ar gymuned gael ei hadrodd ar y llwyfan, ac mae gan y bobl y casglwyd eu straeon rhyfeddol ddigon i’w ddweud. Mae wedi bod yn broses eithriadol sydd wedi arwain at sgript llawn dicter, gwytnwch anhygoel a hiwmor mawr.”
Dywedodd Julia Barry, Prif Weithredwr Theatr y Sherman: “Mae hon yn stori wir yn ne Cymru sy'n siarad â'r byd; un a wnaeth benawdau byd-eang, a ddatblygodd mewn tref gyda chyrhaeddiad artistig enfawr ac y mae lleisiau ei chymuned yn mynnu cael eu clywed. Rydym yn falch iawn o ddod â’r ddrama newydd hon i gynulleidfaoedd yng Nghymru.”
Yn perfformio yn y cast bydd Jalisa Andrews, Matthew Bulgo, Holly Carpenter, Ioan Hefin, Simon Nehan a Kerry Joy Stewart.
Caiff Port Talbot Gotta Banksy ei pherfformio yn Theatr y Sherman, 2-10 Mai 2025, wedyn yn y Plaza, Port Talbot; Theatr y Grand, Abertawe; Theatr y Torch, Aberdaugleddau a Tŷ Pawb, Wrecsam.