‘Perthyn’ – gosodwaith ymdrochol newydd pwerus gan y cyfansoddwr â’r artist John Meirion Rea, sy’n archwilio hanes a straeon cyfoethog y gymuned Gymreig-Eidaleg yn Ne Cymru.
Y Canopi, 59-61 Tudor St, Cardiff CF11 6AD.
Ar agor i'r cyhoedd: Dydd Mercher 3 Medi 10:00yb-4:00yh i Ddydd Sadwrn 6 Medi 10:00yb-4:00yh.
Lansiad arbennig hwyr ar Nôs Wener 5 Medi, o 6yh-9yh.
Gan gyfuno recordiadau gwreiddiol, ffilm, seinweddau haniaethol a cherddoriaeth, mae’r gwaith atgofus hwn yn ganlyniad taith greadigol ddeng mis, wedi’i hysbrydoli gan dreftadaeth Eidalaidd John ei hun ac wedi’i siapio gan leisiau’r gymuned unigryw, aml-genhedlaeth hon.
Hefo cymorth yr Eisteddfod Genedlaethol a Chyngor Celfyddydau Cymru, mae’r prosiect yn dilyn archwiliad John o hunaniaeth, mudo, a pherthyn.