‘Perthyn’ – gosodwaith ymdrochol newydd pwerus gan y cyfansoddwr â’r artist John Meirion Rea, sy’n archwilio hanes a straeon cyfoethog y gymuned Gymreig-Eidaleg yn Ne Cymru.
YMa, 28 Stryd Taff, Pontypridd, CF37 4TS
Ar agor i'r cyhoedd: Dydd Gwener 2 Mai 10:00 am - 5:00 pm a dydd Sadwrn 3 Mai 10:00 yb - 8:00 yh
Gan gyfuno recordiadau gwreiddiol, ffilm, seinweddau haniaethol a cherddoriaeth, mae’r gwaith agos-atoch ac atgofus hwn yn ganlyniad taith greadigol ddeng mis, wedi’i hysbrydoli gan dreftadaeth Eidalaidd John ei hun ac wedi’i siapio gan leisiau’r gymuned unigryw, aml-genhedlaeth hon.
Hefo cymorth yr Eisteddfod Genedlaethol a Chyngor Celfyddydau Cymru, mae’r prosiect yn dilyn archwiliad John o hunaniaeth, mudo, a pherthyn.