Mae Theatr y Sherman wedi cadarnhau pedwar perfformiad ychwanegol o The Women of Llanrumney - drama hanesyddol ddinistriol Azuka Oforka a osodwyd ym mhlanhigfa siwgr Llanrhymni yn Jamaica yn y 18fed ganrif - yng Nghaerdydd ym mis Mai 2025.

Gwerthwyd pob tocyn o gynhyrchiad gwreiddiol Theatr y Sherman yng Nghaerdydd Mai-Mehefin 2024, a chafwyd adolygiadau gwych (★★★★★ “marks Oforka as an urgent and important voice in Welsh theatre” The Guardian). 

Felly hefyd mae’r ymateb i’r cyd-gynhyrchiad eleni gyda Stratford East yn Llundain, lle mae’r ddrama’n rhedeg tan 12 Ebrill (★★★★ The Daily TelegraphThe StageThe Standard).

Mi fydd The Women of Llanrumney yn dychwelyd i Theatr y Sherman yng Nghaerdydd ar 26 Ebrill, ond wedi i bob tocyn gael eu gwerthu mae’r rhediad hwnnw bellach wedi’i ymestyn y tu hwnt i 10 Mai i 14 Mai. Mae tocynnau ar gyfer y perfformiadau ychwanegol ar werth nawr.

Cafodd planhigfa Llanrhymni ei sefydlu gan Syr Henry Morgan, dyn oedd yn troi pobl yn geithweision (enslaver) a oedd yn wreiddiol o Lanrhymni yng Nghaerdydd - dyna pam ei henw - ar ddiwedd y 1600au. Roedd gweld portread ohono yng Nghaerdydd wedi ysbrydoli Azuka i archwilio canlyniadau ac etifeddiaeth rôl Morgan fel rhywun oedd yn troi pobl yn geithweision. Yn dilyn ymchwil Azuka i hanes dilynol y blanhigfa, mae The Women of Llanrhymni yn taflu goleuni ar y bennod gudd hon o hanes Cymru, ac yn archwilio profiad merched yn ystod caethwasiaeth; y rhai a elwodd ohono, y rhai a gafodd eu creuloni ganddi a'r rhai a ymladdodd i'w ddinistrio.

1765. Mae Cerys a'i mam Annie wedi eu caethiwo gan y teulu Morgan cyfoethog o Gymru. Mae eu dyfodol yn hongian yn y fantol pan fydd Elizabeth Morgan yn wynebu colli ei phlanhigfa. Gan ofni beth allai fod o'i blaen, mae Annie yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau ei safle yn y Tŷ Mawr. Ond yn hwyr neu'n hwyrach, gyda storm o wrthryfel yn tyfu, bydd yn rhaid i Annie wynebu'r arswyd a'r trawma o'i chwmpas, gan gynnwys ei rhai hi.

Yn dychwelyd i’w rolau eleni mae Artist Cyswllt Theatr y Sherman Suzanne Packer fel y caethwas Annie, Nia Roberts fel Elizabeth Morgan, disgynnydd ffuglennol i Henry Morgan, a Matthew Gravelle fel Simon Taylor a rolau eraill. Mae Shvorne Marks wedi ymuno â'r cast i chwarae Cerys, merch Annie.

Mae'r tîm creadigol gwreiddiol wedi dychwelyd; Artist Cyswllt Theatr y Sherman Patricia Logue fel Cyfarwyddwr, y Dylunydd Set a Gwisgoedd Stella-Jane Odoemelam, y Dylunydd Goleuo Andy Pike, y Cyfansoddwr Takisha Sargent a’r Dylunydd Sain Ian Barnard.