Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, 17–19 Hydref 2025
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn dathlu blwyddyn gyntaf ei breswyliad offerynnau llinynnau arloesol gyda gŵyl benwythnos sydd â’r nod o rannu byd chwarae offerynnau llinynnol - gan chwalu rhwystrau, meithrin talent newydd, a gwneud cerddoriaeth yn fwy hygyrch i bobl ifanc ledled Cymru.
Mae’r Penwythnos Mawr Llinynnau yn dwyn ynghyd berfformiadau gan artistiaid o fri rhyngwladol megis Jacob Shaw a Roberts Balanas, gyda chyfleoedd ymarferol am ddim i’r genhedlaeth nesaf o gerddorion. Mae’r digwyddiad yn greiddiol i genhadaeth y Coleg i ehangu cyfranogiad yn y celfyddydau a sicrhau y gall pobl ifanc, waeth beth fo’u cefndir, brofi llawenydd chwarae offerynnau llinynnol, gan gyfuno perfformiad o’r radd flaenaf â chynhwysiant, ac arddangos sut y gall cerddoriaeth ysbrydoli a chynnwys y gynulleidfa ehangaf bosibl.
Gall ymwelwyr ddisgwyl popeth o gampweithiau clasurol i seiniau cyfoes, gyda thraddodiadau gwerin, cydweithrediadau jazz, ac Athro Cadair Rhyngwladol y Soddgrwth CBCDC, Jacob Shaw, yn gweithio gyda myfyrwyr llinynnau y Coleg. Mae yna hyd yn oed drefniant newydd sbon o ‘Bohemian Rhapsody’, wedi’i greu a’i berfformio’n arbennig gan y feiolinydd feirol Roberts Balanas i ddathlu pen-blwydd y gân eiconig yn 50 oed, yn chwarae gydag Unawdwyr Llinynnol CBCDC.
‘Bob tro y byddaf yn dod i CBCDC rwy’n cael fy ysbrydoli gan egni’r myfyrwyr a’r ymdeimlad o bosibilrwydd yma.’ Mae’r Penwythnos Mawr Llinynnau yn ymwneud â rhannu’r ysbrydoliaeth honno gyda’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr llinynnau – ac mae cymysgedd eclectig y digwyddiad yn sicr yn gwneud hynny.’
Jacob Shaw, Athro Cadair Rhyngwladol y Soddgrwth CBCDC
Mae cynhwysiant wrth galon yr ŵyl: gyda gweithdai am ddim, cyngor ar gyfer clyweliadau, a sesiynau blasu - gan gynnwys y cyfle i gydio mewn fiola neu fas dwbl yn ogystal â’r feiolin neu’r soddgrwth, a chwarae ochr yn ochr â cherddorion o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC - anogir pobl ifanc a dechreuwyr i gymryd eu camau cyntaf un i fyd y llinynnau. Mae croeso cynnes i fyfyrwyr sydd ar ddechrau eu siwrnai i fyd cerddoriaeth llinynnau, hyd at y rheini sydd ar fin astudio mewn conservatoire a thu hwnt, ddod a chymryd rhan.
‘Mae’r penwythnos hwn yn ymwneud â dathlu pŵer a hyd a lled cerddoriaeth linynnau, gan ganolbwyntio ar gyfle, cydweithio a rhannu arbenigedd a phrofiad,’ meddai Simon Jones, Pennaeth Perfformiad Llinynnau.
‘Rydym am hyrwyddo cynhwysiant ac ymgysylltiad cymunedol, gan groesawu myfyrwyr ym mhob cam o’u datblygiad i rannu profiadau ysbrydoledig gyda dysgwyr eraill, myfyrwyr coleg, a gweithwyr proffesiynol o fri. Mae’n dod â’n partneriaid ynghyd, gan weithio gyda Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, y Gwasanaethau Cerdd, athrawon coleg a chwaraewyr o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, gan feithrin perthynas gryfach ag ysgolion ac athrawon a rhoi cyfle i bob myfyriwr weithio a pherfformio gyda chwaraewyr llinynnau o’r radd flaenaf.’
Mae uchafbwyntiau’r Penwythnos Mawr Llinynnau yn cynnwys:
- Jacob Shaw, Sylfaenydd Ysgol Soddgrwth Sgandinafia, ac Athro Cadair Rhyngwladol y Soddgrwth CBCDC, ynghyd â’r soddgrythwyr Johannes Gray a Finn Anderson-Hendra yn perfformio gydag Unawdwyr Llinynnol CBCDC.
- Dominic Ingham yn ymuno â myfyrwyr jazz y Coleg ar gyfer perfformiad AmserJazzTime am ddim.
- Roberts Balanas, y seren cyfryngau cymdeithasol ar y feiolin, yn perfformio ei drefniant arbennig o Bohemian Rhapsody i ddathlu pen-blwydd y trac eiconig yn 50 oed, a gweithdy am ddim ar gyfer chwaraewyr Gradd 3+
- Pedwarawd Carducci, yn dod â cherddoriaeth a’r gair llafar ynghyd ar daith gerddorol wedi’i hysbrydoli gan y gwerin sy’n dathlu diwylliannau amrywiol.
- Gweithdai cynhwysol gyda’r artistiaid blaenllaw Mary Condliffe, Prif Fiola y WNO Dunia Ershova, Dominic Ingham, a Roberts Balanas.
- Cyngor ar gyfer clyweliadau, a chyflwyniad i astudio yn CBCDC
- Perfformiad Mawr – digwyddiad cyfranogiad torfol lle gall unrhyw un gydio mewn offeryn llinynnol a chreu cerddoriaeth gyda cherddorion BBC NOW.