Drwy gydweithio rhwng YMCA Pontypridd, Artis Cymuned, Gwasanaethau Celf Rhondda Cynon Taf ac arbenigwyr celf gyhoeddus lleol Addo Creative, rydym yn hynod falch i gyhoeddi y detholwyd yr artistiaid Heinrich a Palmer i ddatblygu dyluniadau 2D ar gyfer ffasâd gwydr lefel parapet adeilad YMCA ym Mhontypridd. Caiff y comisiwn celf gyhoeddus ei gyllido gan Gyngor Celfyddydau Cymru fel rhan o’i gyfraniad i ailddatblygiad ehangach YMCA Pontypridd. Caiff y celfwaith gorffenedig ei osod yn barod ar gyfer agor yr adeilad yn Haf/Hydref 2021 – mae hyn wrth gwrs yn dibynnu ar effaith barhaus cyfyngiadau Covid-19. Caiff yr holl waith yn ystod y cyfnod hwn ei wneud gan ddilyn y cyfarwyddyd diweddaraf ar ymbellhau cymdeithasol.

Mae Anna Heinrich a Leon Palmer yn ddau artist Prydeinig sydd wedi cydweithio ers dechrau’r 1990au. Mae ganddynt ymarfer eang, traws-disgyblaeth, sy’n cwmpasu gosodweithiau, digwyddiadau taflunio graddfa fawr, ffilmiau a ffotograffiaeth. Mae ganddynt ddull gweithredu penodol i safle ac yn aml yn cyfuno cyfryngau dros dro tebyg i ffilm ddigidol, golau, sain a thafluniad gyda deunyddiau a strwythurau ffisegol i dynnu ystyron amgen neu amwys. Mae llawer o’u prosiectau yn esblygu drwy broses o ymchwil, ymgysylltu neu gydweithio gyda phobl o ddisgyblaethau eraill megis penseiri, peirianwyr, rhaglenwyr a gwneuthurwyr.

“Mae ailddatblygu’r YMCA yn brosiect pwysig iawn i Bontypridd. Mae’r comisiwn celf gyhoeddus hwn yn ffordd gyffrous i gysylltu gyda’r gymuned leol tra bod y gwaith adeiladu’n mynd rhagddo ac rydym yn hynod falch i fedru gweithio gyda Heinrich a Palmer ar y prosiect cyffrous hwn.” – Kay Walters, Cadeirydd YMCA Pontypridd

Gwefan yr Artistiaid: www.heinrichpalmer.co.uk

Instagram: @heinrichandpalmer

Twitter: @HeinrichPalmer

Facebook: @AnnaHeinrichLeonPalmer