Mae'r rôl reoli ymarferol, bragmatig hon yn sail i’r gwaith o gynllunio a gweithredu marchnata ar draws y sefydliad i sicrhau ymgyrchoedd tymor byr, canolig a hir craff, effeithlon ac ystyriol. Mae gan y rôl ffocws cadarn ar incwm a enillir, gan ganolbwyntio'n arbennig ar gynyrchiadau Theatr Clwyd. Mae hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth sbarduno incwm sy’n cael ei ennill o ddigwyddiadau gwerthu ategol a sicrhau dull cynllunio marchnata cyfannol, ystyriol a chytbwys.



Mae’r rôl yn rhan o’n teulu Creu Theatr ni ond yn gweithio ar draws pob maes o’r sefydliad, gan gynnwys cyfrifoldeb cyllidebol a rennir ar gyfer y swyddogaeth farchnata gyda ffocws ar gynyrchiadau Theatr Clwyd ac mae’n cael ei chefnogi gan y Cyfarwyddwr Cynulleidfaoedd a Dirnadaeth i roi strategaethau’r sefydliad ar waith.

Oriau: 37 awr yr wythnos

Gradd: TC1.5

Cyflog Cychwynnol: £35,212 - £39,402 (pro rata)

Teulu:Profiad

Yn atebol i:Cyfarwyddwr Cynulleidfaoedd a Dirnadaeth

Yn gyfrifol am: Rheolwr Marchnata | Swyddog Marchnata (Y Wasg a'r Cyfryngau) | Cynorthwy-ydd Marchnata (Cyffredinol)

Dyddiad cau: 10fed Tachwedd 2023

Dyddiad cau: 10/11/2023