Yn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, ein cenhadaeth yw grymuso'r genhedlaeth nesaf o gerddorion, actorion, dawnswyr a gwneuthurwyr i adeiladu dyfodol creadigol, hyderus a hael i Gymru.

Mae rôl Pennaeth Datblygu yn allweddol i wireddu'r weledigaeth strategol honno. Gan weithio fel rhan o dîm staff cyfeillgar, angerddol ac arbenigol, byddwch yn mwynhau llwyth gwaith amrywiol, gan gael effaith ar fywydau miloedd o bobl ifanc ledled Cymru.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â hanes o godi arian, marchnata ac arweinyddiaeth lwyddiannus, sy'n rhannu ein hangerdd a'n gwerthoedd.

Cyflog:​ £40,000 - £50,000 y flwyddyn (yn ddibynnol ar brofiad)

Swydd llawn amser

Lleoliad:​ Gweithio hyblyg yn bosib, gyda rhywfaint o amser yn y swyddfa yng Nghaerdydd

Dyddiad Cau:​​ 4pm dydd Llun, 17 Chwefror 2025

Cyfweliadau:​​ Dydd Iau 27 Chwefror 2025

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu sector celfyddydau a sefydliad cynhwysol ac amrywiol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu gwerthfawrogi a'u bod yn gallu bod yn nhw eu hunain yn llawn. Rydym ni’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o bob cefndir ac amgylchiadau. Rydym ni wedi ymrwymo'n llwyr i wella amrywiaeth ethnig ein gweithlu ac o'r herwydd rydym ni’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o gymunedau du, Asiaidd a mwyafrifol byd-eang yn arbennig. Mae CCIC yn gyflogwr sy'n Hyderus o ran Anabledd a byddem yn annog ymgeiswyr ag anghenion mynediad penodol i gysylltu â ni i sicrhau ein bod yn diwallu’r rhain ar bob cam o'r broses recriwtio.
 

Dyddiad cau: 17/02/2025