Gan godi cwestiynau ynglŷn â’n perthynas ni gyda byd natur ac ieithoedd lleiafrifedig fel ei gilydd, mae Pan elo’r adar yn gynhyrchiad theatr gobeithiol sy’n ein hannog i weithredu er mwyn y dyfodol.
Wedi’i gyflwyno mewn arddull gorfforol a chwareus gan yr artistiaid Rhiannon Mair a Steffan Phillips, mae’r cynhyrchiad hefyd yn cynnwys perfformiadau byw gan y cerddorion Heulwen Williams ac N'famady Kouyaté, gwaith animeiddio gan Efa Blosse-Mason a thrac sain gan Ani Glass.
Mae’n trafod yr argyfwng y mae natur ac iaith ynddi, a phwysigrwydd mynd i’r afael â’r naill i sicrhau bod y llall yn cael ei warchod ac yn ffynnu. Mae’r gwaith hwn yn amserol o ran ei themâu ac yn cynnig llwyfan i drafod.
Cyflwynir y gwaith ar ffurf cylch; cylch sydd yn cynrychioli treigl amser, yn symbol o gylch y rhod a pherthynas symbiotig. Mae Rhiannon a Steffan yn defnyddio arddull gorfforol yn y gwaith a ddatblygwyd gyda’u cyfarwyddwr symyd profiadol, Dan Watson. Y mae’n cynnwys agwedd arbrofol ar gemau plant fel modd o herio a mynegi rwystredigaeth ynglŷn â’r hyn sydd yn y fantol. Digwydda hyn oll i gyfeiliant byw persain Heulwen a N’famady, sydd yn cyfrannu at greu profiad cofiadwy. Er bod themâu’r cynhyrchiad yn ddwys, y nod yw y bydd y gynulleidfa’n gadael gan deimlo’n obeithiol ac wedi’u hymbweru.
Dywed Rhiannon a Steffan:
“Rydym wedi bod yn datblygu pytiau o’r gwaith hwn ers tro, ac ry’n ni mor falch o allu rhannu cynhyrchiad llawn gyda chynulleidfaoedd. Ma’r themâu ry’n ni’n eu trafod mor bwysig; yn bethau sydd yn ein meddyliau’n feunyddiol. Mae’n gyffrous i gyflwyno gwaith mewn arddull gorfforol efallai nad yw’n cael ei weld yn aml ym mhrif ffrwd theatr yng Nghymru. Mae hi wedi bod yn fraint i gydweithio â chymaint o artistiaid creadigol eraill ar hyd y daith, a mawr yw ein diolch i bob un ohonynt am eu cyfraniadau diymhongar. Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau ein gweledigaeth, ac yn gadael wedi’r perfformiad yn teimlo fod gennych chi’r egni a’r grym i newid pethau.”
Mae Rhiannon Mair yn gyfarwyddwr, perfformiwr, dramatwrg, ac addysgwr. Mae hi wedi gweithio am dros ugain mlynedd yn y diwydiant theatr yng Nghymru; unai’n cyfrannu’n uniongyrchol ato neu’n dysgu myfyrwyr amdano fel darlithydd Prifysgol. Mae gwaith diweddar yn cynnwys sioe ddyfeisiedig unigol i gwmni theatr Volcano, Ar Lan y Môr, oedd yn archwilio effaith ail gartrefi ar gymunedau arfordirol Sir Benfro. Mae hi newydd gyfarwyddo drama Bethan Marlow, ‘Bren.Calon.Fi’ am yr eildro i Theatr Cymru ar gyfer taith genedlaethol. Mae hi’n gwneud llwyth o waith creadigol gyda phlant a chymunedau, yn broffesiynol ac yn wirfoddol. Mae ganddi ddoethuriaeth ymarferol sydd yn dwyn y teitl ‘Y capel Cymraeg, cymdogaeth a pherfformiad.’ Mae ei gwaith yn archwilio themâu megis diwylliant a’r iaith Gymraeg, bod yn Fam, gofodau, arddulliau hunangofiannol a’r argyfwng hinsawdd.
Mae Steffan Phillips yn artist amlddisgyblaethol ac ymchwilydd o Aberteifi. Mae ei waith yn aml yn plethu theatr, ffilm, celf weledol, cerddoriaeth a llenyddiaeth. Enillodd radd BA mewn Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau o Goleg y Drindod, Caerfyrddin, ac MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd o Brifysgol Caerdydd. Mae ar hyn o bryd yn gweithio ar ei ddoethuriaeth ym maes ffilmgerddi ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cyhoeddodd ei bamffled cyntaf o gerddi, Sgwâr (Cyhoeddiadau’r Stamp), yn 2025.
Mae Heulwen Williams yn aml-offerynnwr a chyfansoddwr caneuon Cymreig, sy’n creu cerddoriaeth newydd wedi ei ysbrydoli gan fyd natur, ecoleg, chwedl a llên gwerin gyda ymwybyddiaeth gynnil o ffiniau tiroedd, ieithoedd, tymhorau, môr ac awyr. Ochr yn ochr â'u gwaith unigol, mae eu gwaith o adrodd straeon yn cynnwys cydweithio ar gyfansoddi a pherfformio’r gerddoriaeth ar gyfer y sioe Binderella gyda The Ragged Storytelling Collective, a aeth ar daith o amgylch Cymru yn 2024 yn ogystal â’r Rewilding Cinderella Prosiect a berfformwyd yn Wyl Ymylol Brighton.
Mae N’famady Kouyaté yn gerddor deinamig o Guinea, Gorllewin Affrica. Gwreiddiau Malinké sydd ganddo, ac wedi’i eni i deulu griot (djeli), mae gan N’famady y rôl etifeddol o gadw a rhannu diwylliant traddodiadol Mandingue trwy gerddoriaeth, rhythm ac adrodd straeon. Mae N’famady’n balaffonydd arbennig, yn ganwr, offerynnwr taro, ac yn aml-offerynnwr. Mae’n un o sylfaenwyr The Successors of the Mandingue—cwmni cerdd a dawns o Gymru sy’n dathlu treftadaeth Gorllewin Affrica. Bellach wedi’i leoli yng Nghaerdydd, mae’n arwain cymysgedd bywiog o brosiectau unigol a chydweithredol, ac mae’n cynnal gweithdai cerddoriaeth gyfranogol yn rheolaidd ledled y DU a thu hwnt.
Y TÎM CREADIGOL
- Cyfarwyddwr Symud: Dan Watson
- Dylunydd: Luned Gwawr Evans
- Cyfansoddwr Trac Sain: Ani Glass
- Animeiddio a Darluniau: Efa Blosse-Mason
- Rheolwr Llwyfan: Nia Morris
- Cynhyrchydd: Nia Wyn Skyrme
PERFFORMIADAU
Neuadd Hopkinstown,Pontypridd
12 Medi 2025 - 19:00 (Dehongliad wedi’i arwyddo /BSL)
Theatr Felinfach, Dyffryn Aeron
17 Medi 2025 13:30 & 19:30
Neuadd Rhoshirwaun
18 Medi 2025 - 19:00
Pontio, Bangor
19 Medi 2025 – 19:30 (Dehongliad wedi’i arwyddo /BSL)
Tŷ Dawns,Caerdydd
23 Medi 2025 - 19:30
Volcano, Abertawe
24 Medi 2025 – 19:30
Theatr Soar, Merthyr Tudful
25 Medi 2025 – 19:30
Cyflwynir y gwaith gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Theatr Cymru a phrosiect Gwreiddiau Gwyllt gan Fentrau Iaith Cymru. Diolch hefyd i Theatr Felinfach, Frân Wen a Phrifysgol De Cymru.