Dyddiad cau: 5pm 11 Rhagfyr 2023
Mae Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn cydweithio i greu, llywodraethu, arwain, rheoli a darparu Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru.
Mae'r tri partner yn rhannu gweledigaeth ar gyfer cyflawni prosiect cenedlaethol unigryw yn seiliedig ar fodel gwasgaredig o orielau ledled Cymru, wedi'i gyfoethogi gan yr orielau sy'n eu cynnal. Bydd yr Oriel yn gweithredu ar egwyddorion cyd-greu a chyd-guradu ag artistiaid cyfoes a chymunedau Cymru, gan dynnu ar gasgliadau cyfoes Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru a thrwy gomisiynu artistiaid.
Ymgynghorwyd yn sylweddol â'r sector i ddeall y galw a'r diddordeb yn natblygiad Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru. Dangosodd yr adroddiad dichonoldeb eang a gynhyrchwyd gan Event yn 2018 gefnogaeth sylweddol i’r cysyniad gan leoliadau, artistiaid a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio yn y sector. Mae'r diddordeb hwn a'r parodrwydd i gefnogi'r prosiect wedi'i atgyfnerthu gan yr astudiaeth ddatblygu fanwl a gynhaliwyd gan Rural Office Architecture.
Mae'r prosiect bellach wedi cyrraedd pwynt lle mae angen ailddatblygu cyfalaf y 9 oriel sy'n rhan o’r rhwydwaith er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â Chynllun Indemniad y Llywodraeth er mwyn symud y prosiect ymlaen i'r cam nesaf. Mae archwiliadau lleoliad manwl wedi'u paratoi gan Rural Office Architecture, sy'n amlinellu'r gwaith sydd ei angen i fodloni'r gofynion. Mae hyn yn cynnwys amcangyfrif o'r gyllideb sy'n cynnwys telemetreg a diogelwch, cynnal a chadw ataliol a lwfansau ychwanegol lle bo angen.
Mae Tîm y Prosiect, a arweinir gan Gyfarwyddwr Prosiect llawrydd, bellach angen cymorth llawrydd ychwanegol gan Reolwr Prosiect cymwys PRINCE2 i helpu i gefnogi’r gwaith o ailddatblygu y 9 oriel sy’n rhan o Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru. Diben y rôl hon yw sicrhau bod gwaith wedi'i gwblhau a chyllid wedi'i ymrwymo erbyn dyddiad cwblhau Cam 1, sef Mawrth 2025, a chyflawni cyfrifoldebau rheoli prosiect eraill yn ôl yr angen.
Bydd y Rheolwr Prosiect llawrydd yn gweithio gyda’r Cyfarwyddwr Prosiect ar sail ad hoc i greu/cynghori a monitro, diweddaru ac adrodd ar gyfres o ddogfennau rheoli prosiect sy’n addas ar gyfer prosiect o’r maint hwn i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r prosiect ac ategu’r strwythur gweithio presennol, megis: log risg cynhwysfawr, log dibyniaethau, cynllun gwireddu buddion a dogfennau allweddol eraill a nodwyd i sicrhau bod y prosiect yn cael ei gyflawni'n llyfn, a goruchwylio'r rhaglen i sicrhau bod cerrig milltir allweddol yn cael eu bodloni.
Yn ogystal â’r maes gwaith allweddol hwn o ran dogfennaeth y prosiect, bydd y rheolwr prosiect yn:
- Gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer cefnogaeth barhaus i'r rhwydwaith orielau mewn perthynas â'r rhaglen gyfalaf
- Cefnogi sicrwydd a monitro’r prosiect
- Darparu diweddariadau rhaglen i Gyfarwyddwr y prosiect yn ysgrifenedig ac ar lafar yn ôl y gofyn.
Bydd cynigion llwyddiannus yn darparu tystiolaeth ymarferol o’r canlynol:
- Ymarferydd PRINCE2
- 3 blynedd o Brofiad Rheoli Prosiect Proffesiynol
- Dealltwriaeth o brosiectau cymhleth gyda phartneriaid a rhanddeiliaid lluosog
- Dealltwriaeth o weithio o fewn cyd-destun awdurdod lleol.
Gwerth y contract llawrydd hwn yw £32,400 (gan gynnwys TAW)
Bydd y contract yn rhedeg rhwng Ionawr 2024 a Mawrth 2025.
I weld holl fanylion y tendr, ewch i GwerthwchiGymru: https://www.sell2wales.gov.wales/search/show/search_view.aspx?ID=NOV458466
Cyflwynwch eich cynnig trwy borth GwerthwchiGymru dim hwyrach na 5pm, dydd Llun 11 Rhagfyr 2023 .