Y gyllideb fesul preswyliad: £15,000 am 10 mis, rhwng mis Mehefin 2024 a mis Mawrth 2025
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais: 5pm ar 24 Mai 2024
Rydym yn gwahodd ceisiadau gan artistiaid, gwneuthurwyr, dylunwyr a phobl greadigol eraill sydd â dull cydweithredol a chyfranogol o weithio, a diddordeb mewn cyfathrebu materion ecolegol ehangach, i ymgymryd â phreswyliadau artist cyswllt fel rhan o Raglen Ymgysylltu drwy’r Celfyddydau Natur am Byth, sef prosiect cydweithredol rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), naw elusen amgylcheddol, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Addo, ac fe’i hariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Natur am Byth yw prosiect Adferiad Gwyrdd blaenllaw Cymru, y mae naw elusen amgylcheddol (Y Gadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid, Yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod, Buglife, yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn, Y Gadwraeth Glöynnod Byw, Y Gymdeithas Cadwraeth Forol, Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB), Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent a Plantlife) wedi gweithio mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) drwyddo i ddarparu’r rhaglen treftadaeth naturiol ac allgymorth fwyaf yng Nghymru. Mae enw’r rhaglen yn cyfeirio at alwad Cymru i uno – Cymru am Byth!
Nod y rhaglen o breswyliadau artist yw cyflawni yn erbyn trydydd llinyn rhaglen Natur am Byth:
Meddwl o’r newydd am y ffordd yr ydym yn ystyried rhywogaethau, a fydd yn targedu’n benodol bobl sydd â llesiant corfforol a/neu feddyliol isel, gan gynnwys y rhai yr effeithiwyd arnynt fel hyn gan bandemig COVID-19. Mae gan natur allu anhygoel, sydd wedi’i ddogfennu’n dda, i’n helpu i wella ac ymgeleddu ein teimladau o lesiant corfforol a meddyliol. Bydd y llinyn hwn yn defnyddio gweithgareddau creadigol a phrosiectau bach i weithio gyda’r gynulleidfa hon i adrodd straeon hynod ddiddorol am ein rhywogaethau mwyaf agored i niwed drwy’r celfyddydau a diwylliant.
Bydd y canlynol yn cael ei wneud yn ystod pob preswyliad:
- Archwilio’r rôl y mae prosesau artistig yn ei chwarae o ran meddwl o’r newydd am y ffordd yr ydym yn ystyried rhywogaethau – yn enwedig ein rhywogaethau mwyaf agored i niwed, sydd yn aml yn fach o ran eu maint ac yn ddinod ar yr olwg gyntaf;
- Defnyddio strategaethau a gweithgareddau creadigol i ymgysylltu â phobl, yn benodol y bobl sydd â llesiant corfforol a/neu feddyliol isel (gan gynnwys y rhai yr effeithiwyd arnynt fel hyn gan bandemig COVID-19) wrth fyfyrio ar y materion sy’n effeithio ar y rhywogaeth ym mhob un o’r safleoedd prosiect ledled Cymru, gyda golwg ar wella a diogelu llesiant a chynefinoedd y rhywogaethau a’r cyfranogwyr fel ei gilydd.
- Creu archif ar-lein o’r gweithiau celf digidol a gynhyrchir drwy’r preswyliadau sy’n helpu i adrodd i gynulleidfa ehangach straeon hynod ddiddorol am ein rhywogaethau mwyaf agored i niwed, ac sy’n adlewyrchu cyd-destun cenedlaethol rhaglen Natur am Byth.
Mae’r briffiau a manylion sut i wneud cais am breswyliad artist cyswllt ar gael yma