Yn dilyn llwyddiant MiniPrint Cymru | Wales yn 2023, mae'n bleser gan Weithdy Argraffu Abertawe a'r Academi Frenhinol Gymreig groesawu MiniPrint Cymru | Wales yn 2025/26.

Mae MiniPrint Cymru | Wales yn arddangosfa ddwyflynyddol i wneuthurwyr printiau proffesiynol a newydd sy'n byw yng Nghymru; neu sy'n aelod o un o'r Partneriaid Rhanbarthol presennol: Academi Frenhinol Gymreig (Gogledd), Gweithdy Argraffu Abertawe (De), Gwneuthurwyr Printiau Aberystwyth (Gorllewin) a'r Ganolfan Argraffu Ranbarthol (Dwyrain); neu sy'n aelod o gyfleuster gwneud printiau yng Nghymru.

  • Gwahoddir cyflwyniadau gan artistiaid sy'n defnyddio unrhyw dechneg gwneud printiau adnabyddus a gynhyrchir â llaw, megis argraffu sgrin, lithograffi, ysgythriad, engrafiad, colagraff, monoteip, argraffu bloc, torlun pren etc.
  • Ni dderbynnir printiau Giclée. Gellir defnyddio prosesau digidol, fodd bynnag, i wella printiau sydd wedi'u hargraffu'n draddodiadol.
  • Rhaid cynnwys y ddelwedd brint o fewn ardal sgwâr o 10cm x 10cm ar faint papur sy'n mesur yn union 18cm x 18cm.
  • Rhaid i bob cyflwyniad fod yn wreiddiol ac wedi'i greu o fewn y 3 blynedd diwethaf.

Caiff y gweithiau eu dewis gan Banel Dethol uchel eu parch:

  • Rhian Wyn Stone, Cyfarwyddwr yr Oriel, Mission Gallery, Abertawe

  • Jude Lau a Tom Whitehead, Cyfarwyddwyr, Printhaus, Caerdydd

  • Andrew Baldwin, Gwneuthurwr Printiau, Trefeglwys, Aberystwyth

  • Ruth Thomas, Gwneuthurwr Printiau, Rhuthun, Sir Ddinbych

Bydd yr holl waith dethol ar gael i'w werthu a'i arddangos yn Mission Gallery, Abertawe ac yn yr Academi Frenhinol Gymreig, Conwy. Bydd cyhoeddiad dwyieithog yn cyd-fynd â'r arddangosfa. 

Bydd yr arddangosfa yn Mission Gallery, Abertawe yn rhedeg o ddydd Sadwrn, 8 Tachwedd 2025 i ddydd Sadwrn, 10 Ionawr 2026; a bydd yn teithio i'r gogledd i'r Academi Frenhinol Gymreig, Conwy yn 2026 o ddydd Sadwrn, 7 Mawrth 2026 i ddydd Sadwrn, 25 Ebrill 2026.

Anfonwch eich cyflwyniadau drwy CuratorSpace lle cewch hefyd wybodaeth am MINIPRINT CYMRU | WALES a’r Canllawiau Cyflwyno llawn. Mae’r Canllawiau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg gan unrhyw un o’r sefydliadau partner.

Dyddiad cau cyflwyniadau –  ganol nos, dydd Llun, 28 Gorffennaf 2025
 

Dyddiad cau: 28/07/2025