A finnau’n Gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, hoffwn fynegi fy nhristwch dybryd am farw Mike Pearson.
Roedd yn gawr ym maes y theatr Ewropeaidd a chafodd ei gydnabod yn rhyngwladol fel ymarferydd a meddyliwr mawr. Bydd ei waith heriol a phryfoclyd gyda Brith Gof, Lab Caerdydd a National Theatre Wales yn aros yn hir yn y cof.
Trawsnewidiodd fyd ein theatr ac mae sawl un arall yn parhau ar yr un trywydd arloesol ag ef. Roedd ei waith safle-benodol ac amlgelfyddydol yn wefreiddiol. Roedd ei ddylanwad yn drwm ar sioeau ein theatrau cenedlaethol a Volcano.
Deffrowyd llawer un ohonom gan ei waith arbrofol. Y Gododdin oedd un enghraifft yn unig o’i gynnyrch toreithiog.
Cafodd Mike yrfa academaidd ddisglair lewyrchus ond deuthum i gysylltiad ag ef yn bennaf pan oedd yn Gadeirydd National Theatre Wales.
Ni anghofiaf byth y noson ar Fynydd Epynt pan welais y Persians na phrofi Coriolan/us yn RAF Sain Tathan.
Mae cymaint rhagor y gallaf ei ddweud am Mike. Roedd yn ddyn treiddgar a chellweirus gyda chydwybod gymdeithasol dyner.
Mae Mike wedi gadael gwaddol sydd i’w weld a’i deimlo o’n cwmpas o hyd.