Mis nesaf mi fydd sioe theatr hygyrch newydd sbon yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf yn Theatr Sherman Caerdydd, cyn teithio i Pontio ym Mangor. Wedi'i hyrwyddo fel cipolwg miniog ac arddullaidd ar ddyfodol awdurdodaidd, dystopaidd, mae cynhyrchwyr Taking Flight Theatre yn dweud y bydd Martha yn brofiad trochol, yn llawn hiwmor a hanesion nas dywedwyd.
Ymunwch â ni mewn dyfodol ansicr mynnwch sedd i chi'ch hun yn Martha's am noson o ddiwylliant Byddar diflewyn ar dafod heb sydd yn hygyrch i bawb - ond gwnewch yn siŵr nad oedd neb yn eich dilyn, dyn ni ddim eisiau peryglu'r Gwrthsafiad. Neu ydyn ni'n rhy hwyr yn barod ?
Mae'n 2055 ac mae'r "Rhaglen" wedi gyrru Byddardod dan ddaear. Mae defnyddio Iaith Arwyddion wedi'i wahardd ac mae felly yn weithred radical o brotest, ac yn ennyn amheuaeth a gormes. I'r lleiafrif eithriedig hwn a'u cynghreiriaid, mae clwb cabaret Martha yn cynnig cartref a chroeso. I'r llywodraeth, mae'n hafan ddiogel i derfysgwyr cuddiedig. Ond oes 'na rhywbeth arall yn digwydd ym Martha's, rhywbeth gallai fod hyd yn oed yn fwy ysgytwol?
Mae cast o chwe pherfformiwr proffesiynol (5 Byddar, 1 â chlyw) yn dod â bywyd i'r ddrama newydd danbaid hon. Yn gwbl hygyrch drwyddi draw, perfformir y ddrama yn Iaith Arwyddion Prydain, Saesneg llafar, a Saesneg gyda Chymorth Arwyddion, sy'n dilyn patrymau gramadegol Saesneg ac yn cael ei ddefnyddio gan yr actorion sydd hefyd yn lleisio'r hyn maen nhw'n ei arwyddo. Gellir deall unrhyw ddeialog dilafar trwy gapsiynau creadigol, ac i fyd yn hygyrch i gynulleidfaoedd Dall a rhannol ddall trwy glustffonau. Bydd y sioe hefyd yn cynnwys disgrifiad sain integredig.
Dywedodd cydawdur Martha, Cyfarwyddwr Iaith Arwyddion Prydain a Chyfarwyddwr Llwyfan Cynorthwyol Steph Bailey Scott:
“Rydym wrth ein bodd yn rhannu Martha gyda chynulleidfaoedd yng Nghaerdydd a Pontio o’r diwedd. Diolch i gyllid cychwynnol gan Unlimited, rydym wedi datblygu drama sydd wirioneddol yn cyflwyno straeon Byddar yn ddigyfaddawd. Pan fyddwch yn gofyn i’r rhan fwyaf o bobl enwi person Byddar, mwy na thebyg gewch chi enwau Rose Aisling Elis neu Helen Keller, ond neb arall – nid yw’n anghyffredin i bobl Fyddar hefyd gael trafferth meddwl am enwau eraill. Roedden ni eisiau llwyfannu sioe a fyddai nid yn unig yn gwneud i gynulleidfaoedd feddwl am ddyfodol pobol Fyddar, ond a fyddai hefyd yn codi ymwybyddiaeth o’r holl gyfraniadau anhygoel y mae pobl Fyddar wedi’u gwneud drwy gydol hanes. Yn ystod ein hymchwil ar gyfer y ddrama, darganfyddon ni gynifer o arwyr Byddar o bob cwr o hanes – o’r Dywysoges Alice o Battenburg, a roddodd lloches i Iddewon yn ystod yr ail ryfel byd i Kitty O’Neill, a oedd yn fenyw styntiau Lynda Carter yng nghynyrchiadau Wonder Woman. Trwy ddefnyddio clwb cabaret cudd fel man cychwyn, rydym wedi gallu plethu’r holl straeon gwych yma i mewn i'r ddrama. Mae’r darnau gosod hyn hefyd yn rhoi'r cyfle i’r actorion ddangos i’r gynulleidfa pa mor ogoneddus yw iaith Iaith Arwyddion Prydain mewn perfformiad. Dw i'n methu aros i bobl cael ei weld!”
Esboniodd y Cyfarwyddwr Elise Davison:
“Rydyn ni wrth ein boddau yn cyflwyno Martha mewn cydweithrediad â Theatr Sherman, ac i deithio i Pontio ym Mangor. Mae’r ddwy theatr wedi ymrwymo i wella mynediad i gynulleidfaoedd yn ogystal â'r cwmnïau sy’n teithio yno, ac mae'n bleser o'r mwyaf i allu rhannu cynhyrchiad sy’n canolbwyntio ar y Byddar gyda’r cynulleidfaoedd yn y ddwy theatr - a chyda chast a thîm creadigol mor anhygoel hefyd! Dw i'n edrych ymlaen cymaint i ddechrau ar yr ymarferion”.
Mae cwmni theatr proffesiynol hygyrch blaenllaw Cymru, Taking Flight, wedi dod â thalentau Duffy, actor arobryn a'r perfformiwr Gweledol Lafar, gwneuthurwr ffilmiau ac ymgynghorydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)a ddysgodd Iaith Arwyddion Prydain yn ddiweddar i aelodau cast â chlyw Reunion y BBC, ynghyd â Bea Webster (peeling/Taking Flight, RSC, Theatr Genedlaethol yr Alban), Cherie Gordon (Reunion y BBC, Theatr Deafinitely, Theatr Graeae), Amy Helena (Theatr Genedlaethol yr Alban, Taking Flight), Eben James (Theatr Clwyd, Cwmni Fran Wen, Taking Flight) a Rhiannon May, yr actor Byddar cyntaf i gael rôl reolaidd mewn rhaglen deledu amser brig yn y DU, gan berfformio am 4 tymor yn Silent Witness. Yn ogystal â disgrifiad sain integredig, mae'r cynhyrchiad yn cynnwys capsiynau creadigol a ddyluniwyd gan y dylunydd graffig Byddar blaenllaw, Ben Glover.
Bydd rhagolygon Martha gan Theatr Taking Flight yn Theatr Sherman o 13 Mehefin, ac yna yn parhau tan ddydd Sadwrn 21 Mehefin cyn trosglwyddo i Pontio ym Mangor, o'r 25-26 o Fehefin. Pris tocynnau yw £10. Argymhellir y sioe ar gyfer pobl 14+ oed, ac mae'n gwbl hygyrch i bobl Fyddar, trwm eu clyw, dall neu â golwg rhannol. Nod pob cynhyrchiad Theatr Taking Flight yw lleihau'r rhwystrau traddodiadol i fwynhau'r theatr.
Crëwyd y cynhyrchiad hwn gyda chefnogaeth ariannol gan Unlimited, Cyngor Celfyddydau Cymru, Sefydliad Banc Lloyds a Sefydliad Teulu Forresters. Cyd-ysgrifennwyd Martha gan Elise Davison a Stephanie Bailey Scott. Fe'i dyluniwyd gan Carl Davies, gyda dyluniad goleuo gan Garrin Clarke a dyluniad sain gan Dan Lawrence.