Penybont, Cymru - Mae Tanio, oedd yn cael ei adnabod yn flaenorol fel ‘Valley and Vale Community Arts’, yn gyffrous i ddathlu ei pumed penblwydd. Mae’r sefydliad, a wnaeth ail-frandio yn gynnar yn 2020, wedi parhau i adeiladu ar ei etifeddiaeth 35-blwyddyn o waith celfyddydau cymunedol yn Ne Cymru. Mae'r enw 'Tanio' yn mewngapsiwleiddio cenhadaeth y sefydliad yn berffaith i danio creadigrwydd, cymuned, a newid cymdeithasol. 

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae Tanio wedi cymryd brasgamau arwyddocaol mewn meithrin lleoedd diogel, cynhwysol a chyfleoedd ar gyfer cymunedau y cymoedd. Mae’r sefydliad wedi cynnal dros 1,700 o weithgareddau a digwyddiadau, gan ddenu mwy na 18,000 o fynychwyr. Mae’r ymdrechion yma wedi dod â £1.5 miliwn mewn i’r gymuned, gyda dychweliad cymdeithasol ar y buddsoddiad wedi’i amcangyfrifo i fod tair gwaith y swm yna. 

‘Rydyn ni yn falch iawn o’r hyn mae Tanio wedi cyflawni dros y pum mlynedd diwethaf. Dyw ein hymroddiad i danio creadigrwydd a meithrin ysbryd cymunedol byth wedi bod yn gryfach. Rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau ein gwaith a gwneud impact hyd yn oed yn fwy mewn blynyddoedd i ddod,’ dywedodd Lisa Davies, Prif Weithredwr Tanio.

Mae prosiectau Tanio yn rhychwantu ardaloedd amrywiol, gan gynnwys iechyd a lles, cyfiawnder hinsawdd, a gwerth cymunedol. Un fenter nodiadol yw rhaglen ‘Breathing Space Ignite’ (a ariannwyd gan gronfa Loteri Celfyddydau, Iechyd a Lles trwy Gyngor Celfyddydau Cymru, a dosbarthwyd mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, ‘Mental Health Matters Wales’, a Chlwstwr Gofal Cynradd Taf Elai), sy’n cefnogi dros 70 o bobl yn wythnosol drwy Sir Penybont a Phontypridd. Mae’r rhaglen yma wedi cael effaith dwfn, gan helpu unigolion i frwydro unigrwydd a gwella iechyd meddwl. 

Mae Tanio yn estyn ei diolchgarwch i’w arianwyr, gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru, Ymddiriedolaeth Cymuned Cod Post, a Chyngor Bwrdeistref Siriol Penybont. Mae’r sefydliad hefyd yn gwerthfawrogi cefnogaeth ei phartneriaid ac ymroddiad ei artistiaid hwyluswyr a Bwrdd Ymddiriedolwyr. 

Mae Tanio yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddefnyddio celf a chreadigrwydd fel offer pwerus ar gyfer newid cymdeithasol, iechyd, a lles. Mae’r sefydliad yn edrych ymlaen at barhau ei gwaith a chael impact parhaol ar y gymuned. 

Ar ddydd Mercher y 16eg o Ebrill, gwnaeth Tanio cynnal dau ddigwyddiad penblwydd, gan gynnwys Diwrnod Hwyl Gymunedol a parti i ddathlu ei partneriaid a hwyluswyr. Fel rhan o’r digwyddiadau, gofynnodd y sefydliad am cyfraniadau i helpu cefnogi’i gwaith parhaol trwy herio materion ariannol byd-eang heriol. Os hoffech chi cyfrannu i waith Tanio, plîs edrychwch amdanyn nhw ar ‘Justgiving’, neu defnyddiwch ap ‘Easy Fundraising’ i godi arian ar gyfer Tanio wrth i chi siopa arlein. 

Cyswllt:

Alicia Stark
Cyfarwyddwr Datblygu Busnes
Tanio
alicia@taniocymru.com