Bydd gwaith Theatr Dawns Krystal S. Lowe – mewn cysylltiad â Theatr Iolo ac wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Theatr Iolo, a South East Dance – yn mynd ar ei daith ryngwladol gyntaf i Ganolfan Ddiwylliannol ZAMEK yn Poznan, Gwlad Pwyl.
Yn dilyn dwy flynedd o deithio ledled y Deyrnas Unedig i leoliadau’n cynnwys Canolfan Gelfyddydol Glanyrafon; Theatr Clwyd; Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth; Theatr y Sherman; Canolfan Gelfyddydau Chapter; DanceBlast, Y Fenni; South East Dance, Brighton; Gŵyl Agor Drysau Arad Goch; a’r Polka Theatre yn Llundain, mae Remarkable Rhythm yn mynd ar ei daith ryngwladol gyntaf i Ganolfan Ddiwylliannol Zamek yn Poznan, Gwlad Pwyl, y mis Hydref hwn.
Ynghyd â pherfformio’r cynhyrchiad ddydd Mercher 15 Hydref i gynulleidfa’n cynnwys 30 o blant dall a rhannol-ddall, bydd y tîm hefyd yn cynnal gweithdai ar gyfer cymuned leol Zamek a’u cwmni theatr cynhwysol, Klucz Theatre. Bydd hyn yn diweddu mewn perfformiad o The Bench – gosodiad byrfyfyriol Krystal – gyda chwmni’r Klucz Theatre yn perfformio ochr yn ochr â’r tîm.
Mewn ymdrech i leihau effaith amgylcheddol teithio’n rhyngwladol, mae Canolfan Ddiwylliannol Zamek wedi adeiladu eu mainc anferth eu hunain ar gyfer y cynhyrchiad, gyda Krystal yn cydweithio â thaith Theatr Iolo yng Ngwlad Pwyl o Owl At Home i rannu tîm cynhyrchu.
Diolch o galon i Anna Pawłowska yng Nghanolfan Ddiwylliannol Zamek a Chronfa Cyfleoedd Rhyngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru – heb y naill na’r llall ni fyddai modd cynnal y daith hon.
Bob blwyddyn, ochr yn ochr â Krystal S. Lowe yn chwarae rhan Rhythm, mae rhan Glas wedi’i phortreadu a’i hysbrydoli gan wahanol artistiaid o Gymru – yn 2023 yr hyfryd Liam Wallace, yn 2024 yr hwyliog Jules Young, ac eleni chwaraeir rhan Glas gan yr anhygoel Amber Howells!
Mae Amber Howells, sy’n byw yng Nghaerdydd, yn artist dawns ac awdur sy’n cyfuno theatr dawns, adrodd straeon, a symudiadau dynamig, corfforol yn ei gwaith. A hithau newydd ddychwelyd o daith gerdded 70-diwrnod ar ei phen ei hun ar hyd Llwybr y Pacific Crest, a bellach yn mwynhau tripiau dringo cyffrous gan deithio yn ei fan, mae hi’n cyflwyno beiddgarwch ac adlewyrchiad i mewn i’w hymarfer celfyddydol. Mae Amber, sydd wedi ymrwymo i hygyrchedd a nerth benywaidd, yn mynd at ei gwaith â chwilfrydedd, agwedd agored, a ffocws ar feithrin cysylltiadau llawen – y naill i’r llall ac i’r byd naturiol. Mae Amber wedi cael gyrfa eang yn gweithio ar Sex Education Netflix; gyda Krystal S. Lowe, Cwmni’r Frân Wen ac Anthony Matsena; Jones the Dance; Marcus Jarrell Willis; June Campbell-Davies; Anna Watkins; a Chwmni Dawns Ransack.
“Rwy’n gyffrous iawn yn cael dod â ’nghyfoeth o wybodaeth o ymarfer dawns cynhwysol i Zamek. Mae mis Awst 2025 yn nodi pum mlynedd ers fy mherfformiad graddedig cyntaf gyda Krystal. Nawr, rwyf wrth fy modd yn cael teithio’n rhyngwladol gyda hi yn Remarkable Rhythm, cynhyrchiad sydd wedi’i wreiddio mewn mynediad creadigol integredig. Mae Krystal wedi chwarae rhan bwysig yn fy ngyrfa hyd yma, gan fy nghefnogi i goleddu fy niwroamrywiaeth a dod o hyd i ddulliau iach o lywio fy ffordd o amgylch y byd llawrydd. Dyna pam rwyf wrth fy modd yn cael chwarae rhan Glas, person ifanc niwroamrywiol sy’n ceisio dehongli eu perthynas ag eraill ac â’r byd o’u cwmpas. Ar ôl gweithio ar Remarkable Rhythm fel dramatwrg a chyfarwyddwr ymarferion y llynedd, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at berfformio a hwyluso gweithdai yng Nghanolfan Ddiwylliannol Zamek y mis Hydref hwn.”
– Amber Howells
Ynghyd â Krystal ac Amber, bydd y nodedig Nick Allsop hefyd yn rhan annatod o’r tîm fel Rheolwr Cynhyrchu a Thechnegol.
Mae gan Nick Allsop dros 25 mlynedd o brofiad mewn rheoli cynyrchiadau, gan weithio gyda chwmnïau a chynyrchiadau megis Music Theatre Wales, Theatr y Sherman, Canolfan Mileniwm Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Polka Theatre, a Theatr Iolo. Caiff Nick ei yrru gan ei ymrwymiad i heriau creadigol a logistaidd creu theatr i gysylltu â chynulleidfaoedd. Mae dull Nick o weithio’n cynnwys cefnogi’r tîm a’r cynhyrchiad ag ymroddiad a sylwgarwch i sicrhau canlyniadau gwych trwy gynnal agwedd ddigyffro a hyblyg.
Yno yn yr ysbryd, ond nid yn y cnawd, fe fydd y tîm creadigol anhygoel y mae eu creadigedd a’u hymdrech wedi gwneud y gwaith hwn yn gyflawn. Cyfansoddiadau cerddorol Tumi Williams a Craig Yellen, cynlluniau goleuo Elanor Higgins, ac wrth gwrs y fainc a gynlluniwyd gan Simin Ma.
“Hwn yw’r tro cyntaf i mi deithio fy ngwaith fy hun yn rhyngwladol, ac rwy’n hynod gyffrous nid yn unig i allu rhannu Remarkable Rhythm fel cynhyrchiad, ond hefyd i ymgysylltu a gwneud cysylltiad ag artistiaid a sector y celfyddydau yn Poznan yn gyffredinol. Drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, rydw i ac Anna Pawłowska o Ganolfan Ddiwylliannol Zamek wedi bod yn trafod y ffordd orau ymlaen i ddod â’r gwaith hwn i gynulleidfaoedd Pwylaidd a chysylltu ag artistiaid Pwylaidd. Fel artist sy’n teimlo’n angerddol dros weithio’n amlieithog, cefais lawer o bleser wrth weithio ar Remarkable Rhythm gyda throsleisio Pwylaidd. Bu’n ffordd wych i ni ymgysylltu ac ymgyfarwyddo â’r iaith o flaen llaw. I mi, y peth mwyaf cyffrous i mi fydd darganfod pa ddefnydd fyddan nhw’n ei wneud o’r fainc ar ôl i ni adael!”
– Krystal S. Lowe, Coreograffydd a Chynhyrchydd