Ymunwch â’r artist Craig McCorquodale o Glasgow mewn cyfres o berfformiadau awyr agored, gan ddefnyddio’r ardal leol fel ein cynfas a’r strydoedd fel ein llwyfan. Drwy gyfres o dasgau chwareus, byddwn yn defnyddio testun, delweddau a theithiau cerdded cyffredin i amharu ar rythmau arferol gofod cyhoeddus a deall sut y gall ymyriadau artistig roi ystyr newydd i rywle cyfarwydd.
O deithiau cerdded grŵp i hunanbortreadau yn y coed, i theatr safle-benodol yn Tesco, bydd y gweithdy hwn yn gyfle cofiadwy i roi cynnig ar rywbeth newydd a gwneud i’r math o bethau y gallem eu hystyried yn amhosibl ddigwydd – hyd yn oed am eiliad.
Ac yntau’n agored i bob oed, mae digwyddiad Seeing This Place Differently yn eich gwahodd i ystyried eich cysylltiad personol â’r lle rydych chi’n byw ynddo, ac yn annog ffordd fwy anturus o gysylltu â rhywle cyfarwydd.
PWY: Unrhyw un 14 oed a hŷn.
PRYD: Dydd Mawrth 9 Medi
AMSER: 10am tan 2pm
BLE: Neuadd Llanrhymni, Heol Ball, Llanrhymni, CF3 4JJ
MYNEDIAD: Er y gallai fod rhai cyfyngiadau o ran hygyrchedd yn ein gweithdy awyr agored, byddwn yn gwneud newidiadau i ddarparu ar eich cyfer lle bynnag y bo modd. E-bostiwch chantal@commonwealththeatre.co.uk gydag unrhyw ofynion mynediad sydd gennych, e.e. dod â chadair i chi.
Mae angen blaendal o £5, a bydd hwn yn cael ei ad-dalu wrth ddod i’r gweithdy. Archebwch drwy Eventbrite