Nod Our Voice Network | Rhwydwaith Ein Llais CIC yw grymuso, datblygu, a llwyfannu pobl o’r Mwyafrif Byd-eang, a gwneud hynny drwy weithgareddau lles, cyfleoedd am ddatblygiad proffesiynol, digwyddiadau arddangos, a bwrsarïau.
Fel Cwmni Buddiannau Cymunedol, bydd Our Voice Network | Rhwydwaith Ein Llais CIC yn cael ei arwain gan Krystal S. Lowe – dawnsiwr, coreograffydd, awdur, a chyfarwyddwr – fel Cyfarwyddwr Gweithredol. Bydd Nez Parr, Dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL), a Nadia Nuir, actor, awdur, a chyfarwyddwr, yn cydweithio â Lowe fel cyfarwyddwyr anweithredol.
Drwy ei gwaith fel dehonglydd, mae Nez wedi cefnogi Rhwydwaith Ei Llais yn gyson ers 2021, ac wedi dangos bod ei gwerthoedd a’i hawydd i weld a gweithredu mwy o gynhwysiant yng Nghymru’n cyd-fynd â nodau a gwerthoedd y Rhwydwaith. Mae Nadia Nur yn actor yng nghamau cynnar ei gyrfa, yn awdur, a chyfarwyddwr sydd wedi dangos angerdd cyson dros weld sector y celfyddydau’n adlewyrchu amrywiaeth ehangach o bobl. Mae Nadia wedi bod yn llais cyson yn galw am fwy o ddidwylledd yn y modd y caiff y celfyddydau eu creu a’u cyflwyno. Mae Krystal S. Lowe wedi cael gyrfa faith o geisio creu ac eiriol dros brofiadau celfyddydol teg sy’n cynrychioli’r ddynoliaeth gyfan. Gyda’i gilydd byddant yn arwain Our Voice Network | Rhwydwaith Ein Llais CIC gyda’r nod o ddylanwadu ar y ffordd y mae’r sector yn gweithio fel nad oes angen mwyach am waith y Rhwydwaith.
Nez Parr
Mae gan Nez Parr 15 mlynedd o brofiad fel Dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) / Saesneg ac mae’n rhan ganolog o’r gwaith o ddod â mwy o gynhwysiant i sector y celfyddydau yng Nghymru. O ganlyniad i’w hangerdd dros faes lles, mae Nez wedi cymhwyso fel Cwnselydd Dyneiddiol ac yn cynnig sesiynau cwnsela drwy gyfrwng Saesneg ac Iaith Arwyddion Prydain. Ar hyn o bryd, mae Nez yn paratoi i fod yn hyfforddwr yoga.
Wrth siarad yn fuan ar ôl cael ei phenodi’n gyfarwyddwr Our Voice Network | Rhwydwaith Ein Llais CIC, dywedodd Nez, “Ro’n i wrth fy modd pan ofynnodd Krystal i mi fod yn gyfarwyddwr gyda Rhwydwaith Ein Llais. Dwi wedi gweld y gwaith mae’n ei wneud wrth alluogi pobl greadigol yng nghamau cynnar eu gyrfaoedd i gael eu troed yn y drws ym maes y celfyddydau – maes sy’n nodedig o anodd cael i mewn iddo, yn enwedig yn achos grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli yma yng Nghymru. Fel maen nhw’n dweud, ‘rhaid i ti ei weld cyn gallu ei efelychu’, ac mae Rhwydwaith Ein Llais yn darparu’r amlygrwydd sydd mor angenrheidiol o fewn y sector artistig.”
Nadia Nur
Mae Nadia Nur, sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd, yn artist llawrydd sy’n arbenigo mewn actio, creu ffilmiau, ac ysgrifennu. Maent yn angerddol dros adrodd straeon go iawn, a rhoi llais i’r rhai hynny sy’n aml yn cael eu hanwybyddu, gan roi ffocws ar gydraddoldeb, parch, a chymuned. Maent bob amser yn chwilio am gydweithrediadau sy’n cyd-fynd â’u gwerthoedd, yn enwedig trwy gefnogi pobl greadigol cwîar a rhai o’r Mwyafrif Byd-eang.
Ar ôl cael ei phenodi i’w rôl newydd fel cyfarwyddwr Our Voice Network | Rhwydwaith Ein Llais CIC, dywedodd Nadia, “Penderfynais ddod yn gyfarwyddwr Rhwydwaith Ein Llais oherwydd fy mod yn awyddus i fod yn rhan o etifeddiaeth sy’n creu newid gwirioneddol yn y sector creadigol. Gan fy mod wedi cydweithredu gyda Krystal a Nez ar brosiectau yn y gorffennol, rwy’n ymddiried yn llwyr ynddyn nhw ac yn y weledigaeth rydyn ni’n ei rhannu. Gyda’n gilydd, credaf y gallwn ysgogi trawsnewidiad ystyrlon, a chwyddo lleisiau sy’n cael eu tangynrychioli o fewn y diwydiant."
Krystal S. Lowe
Mae Krystal S. Lowe – a aned yn Bermuda ac sydd bellach wedi sefydlu yng Nghymru – yn ddawnsiwr, coreograffydd, awdur, a chyfarwyddwr sy’n creu gweithiau theatr dawns sy’n archwilio themâu o hunaniaeth croestoriadol, iechyd meddwl a lles, ac yn grymuso i’w herio ei hun a chynulleidfaoedd tuag at fewnsylliad a newid cymdeithasol. Mae hi’n angerddol dros fynediad i’r anabl a gwaith amlieithog yn ffocysu ar Iaith Arwyddion Prydain, Cymraeg, a Saesneg.
Wrth siarad am ei rôl newydd fel Cyfarwyddwr Gweithredol Our Voice Network | Rhwydwaith Ein Llais CIC, dywedodd Krystal, “Sefydlais y rhwydwaith hwn i gynnig man lle gall artistiaid o’r Mwyafrif Byd-eang (a’r croestoriadau oddi mewn iddynt) gael cefnogaeth i ddatblygu a thyfu yn eu gyrfaoedd celfyddydol tra ar yr un pryd yn eu cysylltu a’u gwreiddio o fewn sector y celfyddydau. Mae gwaith y Rhwydwaith yn hanfodol ac yn werthfawr, ond fy mhrif nod yw i na fydd – un diwrnod, yn ystod fy oes i – angen amdano bellach. Gobeithiaf weld sector sydd mor gynrychioliadol o’r byd rydym yn byw ynddo, ac mor deg, fel y gall Rhwydwaith Ein Llais gau ei ddrysau mewn modd trosiadol. Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at y llwybr sydd o’n blaenau, gan wybod y bydd Nadia Nur a Nez Parr yn cyflawni eu rolau, ochr yn ochr â mi, gyda didwylledd ac angerdd.”
Os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi neu bartneru gwaith Our Voice Network | Rhwydwaith Ein Llais CIC, mae croeso i chi gysylltu â ni!