Am y tro cyntaf mewn 15 mlynedd, Cymru yw’r partner rhyngwladol sy’n cael sylw yn Showcase Scotland, digwyddiad arddangos nodedig i’r diwydiant cerddoriaeth sy’n rhan o ŵyl Celtic Connections. Yn 2020, denodd yr ŵyl yn Glasgow gynulleidfa fyw o 130,000 o bobl, gydag asiantiaid archebu ac arweinwyr diwylliannol yn eu plith. Y llynedd, gwyliodd dros 27,000 o bobl o dros 60 o wledydd y byd y digwyddiad digidol. Eleni, nod fersiwn ddigidol Showcase Scotland a rhaglen hybrid Celtic Connections yw pontio â chynulleidfaoedd yn yr Alban, Cymru a phedwar ban y byd.

Mae chwech artist o Gymru – N’famady Kouyaté, Eve Goodman, Pedair, Cynefin, The Trials of Cato a NoGood Boyo – wedi’u dewis drwy alwad agored gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru i gynrychioli Cymru ar lwyfan y byd.  Mae’r dewis hwn yn adlewyrchu natur amrywiol, gynhwysol a beiddgar cerddoriaeth gyfoes Cymru, cerddoriaeth sy’n ceisio creu ei llais ei hun yn y sîn Geltaidd y mae mynd mawr arni yn rhyngwladol.

Meddai Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:

“Rwyf wrth fy modd y bydd artistiaid o Gymru’n ymddangos yn y flwyddyn arbennig hon i Gymru yn Celtic Connections a Showcase Scotland. Dyma gyfle i’w groesawu i feithrin cysylltiadau agosach rhwng sefydliadau celfyddydol yng Nghymru, yr Alban a’r byd, gan roi cyfleoedd yn eu tro yma yng Nghymru i artistiaid o’r Alban ac artistiaid rhyngwladol. 

“Mae cerddoriaeth yn ganolog i ddiwylliant a chymunedau Cymru ac yn hollbwysig i’n lles. Mae ein perthynas â diwylliannau amrywiol yn rhyngwladol wedi llywio natur ein cerddoriaeth. Yn y cyfnod anodd hwn, bydd cerddoriaeth yn rhoi mwynhad a gobaith yma yng Nghymru, ac rydyn ni’n edrych ymlaen hefyd y tu hwnt i’r pandemig at weld cydweithio diwylliannol, rhyngwladol, cynaliadwy.”

Un o elfennau amlycaf y rhaglen ddigidol fydd arddangosfa gaeedig i’r diwydiant cerddoriaeth ddydd Gwener 4 Chwefror i gyd-fynd â Dydd Miwsig Cymru, sef dathliad blynyddol o gerddoriaeth Gymraeg yng Nghymru ac yn rhyngwladol.

Dan arweiniad Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, asiantaeth ryngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru, mae brand Cymru Wales Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r digwyddiad er mwyn cynyddu’r cyfleoedd i artistiaid Cymreig ymgysylltu yn rhyngwladol, datblygu’u gyrfaoedd, a theithio. Bydd hyn yn codi proffil Cymru yn ogystal â dechrau sgwrs am amrywiaeth y diwylliant Celtaidd. 

Meddai Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru:

“Mae cerddoriaeth werin Cymru ar fin rhoi perfformiad ysgubol i’r byd, ac allwn i ddim bod yn fwy balch. O burdeb canu persain Eve Goodman, alawon unigryw Pedair a’r modd y mae cerddoriaeth Cynefin yn tarddu o ddaear Cymru, i ddawn gerddorol The Trials of Cato, alawon llon No Good Boyo a seiniau hudolus N’famady Kouyaté, sy’n pontio Gorllewin Affrica a Chymru drwy’i lais melfedaidd a’i balafon, bydd ein cerddoriaeth yn rhoi mwynhad a phrofiad newydd i gynulleidfaoedd ym mhob cwr o’r byd.   

Fel Cymru, mae ein cefndryd a’n cyfnitherod Celtaidd yn Asturias, Llydaw, Cernyw, Galisia, Iwerddon a’r Alban i gyd wedi meithrin eu seiniau unigryw eu hunain. Efallai na fu Cymru mor amlwg yn y cylchoedd cerddoriaeth Geltaidd, sydd wedi datblygu sain penodol, siriol sy’n pontio’r Iwerydd. Mae hyn wrthi’n newid. Eleni, mae Cymru’n gwahodd y byd i ddarganfod seiniau llai cyfarwydd a mwy amrywiol ein hiaith, ein cerddoriaeth a’n hunaniaeth frodorol. Er ein bod ni i gyd yn siomedig na fyddwn ni’n cwrdd yn Glasgow eleni, rydyn ni’n edrych ymlaen at ddod at ein gilydd drachefn dros y flwyddyn nesaf, a byddwn ni’n cyhoeddi mwy o gyfleoedd i wneud hynny yn nigwyddiad eleni.”

I ddathlu dechrau Degawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig, y thema sydd wedi’i datblygu ar gyfer cyfraniad Cymru ym mlwyddyn gyntaf y degawd yw ‘Gwrando’. Yn Showcase Scotland a Celtic Connections, bydd hyn yn golygu gwrando ar gerddoriaeth Aeleg a Sgoteg, a chreu cyfleoedd i artistiaid yr Alban rannu eu talentau yng Nghymru.

Ychwanegodd Donald Shaw, Cynhyrchydd Creadigol Celtic Connections, a ddewisodd y chwech artist o restr fer a luniwyd gan banel amrywiol dan gadeiryddiaeth Cygor Celfyddydau Cymru:

“Mae ansawdd ac amrywiaeth y ceisiadau gan gerddorion o Gymro wedi fy syfrdanu, ac rwy’n edrych ymlaen at eu gweld nhw’n perfformio yn Celtic Connections eleni. Mae 2022 yn dynodi dechrau Degawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig. Gan hynny, rydyn ni’n edrych ymlaen at greu gofod i wrando ar gerddoriaeth a mynegiant diwylliannol mewn ieithoedd brodorol.”

Oherwydd cyfyngiadau presennol COVID-19, mae rhaglen 5 niwrnod Showcase Scotland wedi’i chwtogi, a bydd digwyddiad digidol ar-lein yn cael ei gynnal dros dridiau rhwng 2 a 4 Chwefror yn lle hynny. Digwyddiad i gynrychiolwyr yn unig yw digwyddiad Spotlight Cymru Wales am 15:00 ddydd Gwener 4 Chwefror, gyda pherfformiadau gan y chwech artist o Gymru gerbron cynrychiolwyr o’r diwydiant cerddoriaeth byd-eang. 

Mae disgwyl bwrw ymlaen â gŵyl Celtic Connections ei hun ar ffurf digwyddiad hybrid, gyda rhaglen wedi’i chwtogi o sioeau byw a chyflwyniadau digidol i gyd-fynd.

Bydd dros haner yr artistiaid a oedd i fod i berfformio yn Celtic Connections yn dal i wneud hynny, tra bydd y lleill yn cael cyfle arall i berfformio ar ddyddiad diweddarach. Byddan nhw i gyd yn ymddangos yn y ffilm ‘Dyma Gymru | This Is Wales at Celtic Connections 2022’. Mae’r ffilm ar gael fel rhan o gynnig digidol yr ŵyl.

Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru hefyd yn parhau â’i waith yn datblygu cynnwys gyda phartneriaid darlledu gan gynnwys BBC Cymru Wales, BBC Radio Cymru, S4C, BBC Scotland a BBC Alba.

Fel rhan o waddol Cymru yn Showcase Scotland 2022, mae Rhaglen Datblygu Artistiaid yn cael ei rhoi ar waith gan Tŷ Cerdd, trac a Focus Cymru, gyda’r nod o ddatblygu cyfleoedd gyrfa i artistiaid a chreu cysylltiadau agosach rhwng sefydliadau celfyddydol yng Nghymru, yr Alban a’r byd.

Dyma’r chwech artist sydd wedi’u dewis gan Donald Shaw i chwarae yn Showcase Scotland 2022:

Cynefin Ceredigion
Gweledigaeth greadigol Owen Shiers, y gŵr o’r gorllewin, yw Cynefin, wrth iddo deithio drwy’r tirlun cerddorol lleol gan ddadorchuddio caneuon a straeon, rhai ohonyn nhw erioed wedi’u recordio o’r blaen, a rhoi bywyd newydd yn y presennol iddyn nhw.

Yn perfformio’n fyw yn Celtic Connections, nos Iau, 3 Chwefror 8.00pm, The Glasgow Royal Concert Hall Strathclyde Suite.

Eve Goodman – Gwynedd
Cerddor dwyieithog o’r gogledd yw Eve Goodman, a’i cherddoriaeth wedi’i gwreiddio yn ei hymdeimlad o le, a llais clir yn cynnal y cyfan. Mae Eve yn plethu’r byd naturiol a’r prydferthwch sydd o’i hamgylch, a’i geiriau’n datgelu sut beth yw bod yn fod dynol yn yr oes hon.

Yn perfformio’n fyw yn Celtic Connections, nos Iau 3 Chwefror, 7.30pm, Saint Luke’s.


N’famady Kouyaté – Caerdydd / Gini
Cerddor o fri o Gini (Conakry) yw N'famady Kouyaté, sy’n cyfuno synau bywiog Mandinka Affrica a dylanwadau jazz, pop, indie a ffync Ewropeaidd. Bydd synau cyfareddol y balafon yn rhoi lliw i’w holl greadigaethau.

Yn perfformio’n fyw yn Celtic Connections, nos Sadwrn 5 Chwefror 7.30pm, Theatre Royal.


No Good Boyo - Caerdydd
Band bywiog, byrlymus yw NoGood Boyo, sydd wedi’u dylanwadu gan gerddoriaeth draddodiadol ond yn arbrofi hefyd â roc, pop a cherddoriaeth ddawns electronig, gan weddnewid hen alawon gwerin Cymreig a chreu hwyl a sbri lle bynnag y byddan nhw’n mynd. Paratowch am rialtwch neu ewch adref!


Pedair – Gogledd Cymru
Mae perfformiadau byw Pedair wedi swyno’r lluoedd. Drwy eu halawon, eu dehongliadau ffres o’r traddodiad gwerin Cymreig, a’r agosrwydd rhyngddyn nhw wrth greu caneuon, dyma ddwyn ynghyd ddoniau cyfansoddi unigryw, sy’n cael eu hysbrydoliaeth o Gymru a’r tu hwnt.

The Trials of Cato – Wrecsam
Gydag alawon egnïol a straeon hudol, grŵp yw The Trials of Cato sydd wedi’i alw yn “Sex Pistols y byd gwerin” (J Davis). Gan roi gwrogaeth amlwg i’w traddodiad yn eu sain, maen nhw hefyd yn rhoi gwedd newydd, fodern, wresog i’r hen drefn.

Yn perfformio’n fyw yn Celtic Connections, nos Wener 4 Chwefror 7.30pm, Awditoriwm Newydd y Glasgow Royal Concert Hall.

 

Artistiaid Cymreig eraill hefyd yn perfformio yn Celtic Connections:

Avanc - ensemble gwerin cenedlaethol ieuenctid Cymru
Yn perfformio'n fyw yn Celtic Connections, dydd Sadwrn 5 Chwefror, 1:00pm, Glasgow Royal Concert Hall Strathclyde Suite.

Calan
Yn perfformio'n fyw yn Celtic Connections, dydd Sadwrn 5 Chwefror, 8:00pm, Old Fruitmarket.