Mae Bywydau Creadigol yn casglu tystiolaeth am y materion sy'n wynebu grwpiau creadigol o ran lleoliadau ar gyfer eu gweithgaredd.
Mae pwysigrwydd dod o hyd i leoliadau cymunedol yn fater parhaus i grwpiau creadigol gwirfoddol.
Ar ddiwedd 2021, wrth i bobl ddechrau ailymgynnull ar ôl cyfyngiadau’r pandemig, cynhaliodd Bywydau Creadigol arolwg o’r sector creadigol gwirfoddol ynghylch y materion sy’n wynebu grwpiau a lleoliadau. Canfuom fod grwpiau creadigol yn galw am leoliadau addas, ac rydym wedi ei gwneud yn flaenoriaeth i agor mwy o leoedd ar gyfer gweithgaredd diwylliannol creadigol.
Rydym yn awr yn pryderu y bydd costau cynyddol yn effeithio’n negyddol ar y sector creadigol gwirfoddol, ac efallai hyd yn oed atal pobl rhag ymarfer eu creadigrwydd gyda’i gilydd.
Nod yr arolwg byr (5 munud) hwn yw creu darlun o anghenion a phryderon presennol grwpiau creadigol ynghylch y gwahanol fannau y maent yn eu meddiannu.
Daw’r arolwg i ben am 5.00pm ddydd Llun 23 Hydref 2023.