Mae’n bleser gan Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau gyhoeddi bod preswyliadau cyfnewid Ulysses’ Shelter rhwng awduron o Gymru ac Ewrop wedi dechrau, wrth i Esyllt Angharad Lewis deithio i Valetta ym Malta, a Marek Torčík ac Ajda Bračič o’r Weriniaeth Tsiec a Slofenia baratoi i ymweld â Chaernarfon.
Prosiect cydweithredol yw Ulysses’ Shelter a gyd-ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd ac sy’n anelu at adeiladu rhwydwaith o gyfnodau preswyl cyfnewid i awduron a chyfieithwyr llenyddol newydd addawol ar draws Ewrop. Fe’i lansiwyd yn 2016 gyda thri phartner, ac mae bellach yn cynnwys wyth gwlad: Croatia, y Weriniaeth Tsiec, Gwlad Groeg, Malta, Serbia, Slofenia, Sbaen (Mallorca) a Chymru, y DU.
Yn 2022 cyhoeddwyd blodeugerdd o gyfieithiadau Saesneg o gerddi, straeon ac ysgrifau a ddeilliodd o fersiwn diwethaf y prosiect yr effeithiwyd arno’n rhannol gan bandemig Covid-19. Mae Ulysses’ Cat (Parthian) yn cynnig cipolwg ar y materion oedd yn gyffredin i ac yn gyrru’r 30 o awduron a gymerodd ran ac mae’n cynnwys gwaith y chwe llenor o Gymru, Eluned Gramich, Steven Hitchins, Grug Muse, Morgan Owen, Lloyd Markham a Rebecca Thomas, a oedd naill ai wedi teithio i Ewrop neu oedd â phreswyliadau digidol yn ystod y rhaglen.
Dywedodd Morgan Owen am ei gyfnod preswyl ar ynys Mljet, Croatia: “Ysgrifennais lawer yno, a chael fy nghyfareddu ganwaith, ond mae’r profiad a’r awyrgylch wedi aros gyda fi, gan roi egni neilltuol i’m hysgrifennu. Mae rhaglenni a phrosiectau fel y rhain gan LLAFFyn anhepgor i lenyddiaeth.”
Yn dilyn galwad agored ym mis Awst, dewiswyd dau awdur o Gymru, Esyllt Angharad Lewis a Ruqaya Izzidien, i gymryd rhan yn y rhaglen eleni, a Malta oedd dewis y ddwy fel lleoliad eu preswyliadau. Mae Esyllt, artist amlgyfrwng sy’n byw yng Nghaerdydd, newydddychwelyd o Valletta, lle bu’n ystyried y tebygrwydd rhwng Cymru a Malta fel gwledydd dwyieithog ôl-drefedigaethol gan gyfieithu llyfryn A Manifesto for Ultratranslation i’r Gymraeg yn ystod ei harhosiad.
“Roedd cael dod i Malta ar breswyliad Ulysses’ Shelter 3 yn brofiad arbennig iawn, â minnau erioed wedi bod yno o’r blaen, nac ar breswyliad tramor,” meddai Esyllt. “Dwi wedi cwrdd â phobl ddifyr a chymwynasgar iawn a dwi’n edrych ymlaen i weld sut effaith y bydd y preswyliad yn ei gael ar fy ymarfer sgwennu, cyfieithu a chelf am flynyddoedd i ddod. Diolch rhyfeddol am y cyfle.”
Trwy gyd-ddigwyddiad hapus roedd awdur arall o Gymru, Eric Ngalle Charles, a aned yn Cameroon, yn Valetta ar yr un pryd – gwaddol o’r bartneriaeth hirsefydlog rhwng Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau a’r sefydliad diwylliannol Maltaidd Inizjamed sy’n cynnal preswyliad Malta.
“Llysgenhadon diwylliannol ydym ni,” meddai Eric. “Rwy’n falch o fod yma, yn cynnal gweithdai ysgrifennu, a hir y parha’r gwaith hwn rhwng Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau, Inizjamed a Chyngor Celfyddydau Malta.”
Mae Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu Marek Torčík o’r Weriniaeth Tsiec ac Ajda Bračič o Slofenia i Gaernarfon ar 11 Mai ar gyfer eu cyfnodau preswyl o bythefnos. Cânt gyfle i gwrdd â llenorion Cymru, cymryd rhan mewn digwyddiadau llenyddol ac archwilio treftadaeth lenyddol gyfoethog y wlad.
Cyhoeddir yr alwad agored am y set nesaf o breswyliadau ar Fai 17eg a bydd yn cynnwys y cyfle i awduron sgrin adadwol o Gymru i wneud cais am gyfnod preswyl ym Mallorca ym mis Hydref 2023.
Yn ôl Alexandra Büchler, cyfarwyddwr Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau, “Mae prosiect Ulysses’ Shelter yn gyfle gwych i ddod ag awduron o wahanol ddiwylliannau a thraddodiadau llenyddol ynghyd ac archwilio sut y gallant gyfoethogi gwaith ei gilydd. Rydyn ni wrth ein boddau o fod yn gweithio gyda grŵp mor dalentog ac amrywiol o awduron ac yn edrych ymlaen at y cydweithredu a’r sgyrsiau fydd yn deillio o’r prosiect hwn.”