Mae Llantarnam Grange yn chwilio am ymddiriedolwr newydd i ymuno â’n bwrdd. Rydyn ni’n chwilio am bobl a all gynnig eu sgiliau, eu profiadau a’u brwdfrydedd i arwain ein sefydliad fel y ganolfan gelfyddydau ranbarthol ar gyfer crefftau a chelfyddydau gweledol yn y de ddwyrain. Os ydych chi’n angerddol am ein gwaith gyda gwneuthurwyr, artistiaid, pobl ifanc, ein cymuned leol, a’n cynulleidfaoedd ehangach, ac os ydych am wneud gwahaniaeth i’r celfyddydau gweledol yng Nghymru, bydden ni’n falch o glywed gennych chi.
Rydyn ni’n chwilio’n arbennig am bobl sy’n siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf neu’n ddysgwyr Cymraeg lefel uwch ac/neu sydd â phrofiad o weithio’n ddwyieithog.
Dyddiad cau: 09/09/2025