Aeth £131.8 miliwn anhygoel o arian y Loteri Genedlaethol tuag at brosiectau yng Nghymru yn 2020/21, yn ôl ffigyrau newydd a ryddhawyd heddiw i nodi lansiad Gwobrau’r Loteri Genedlaethol eleni.
Gwobrwywyd cyfanswm o 3,327 o grantiau’r Loteri Genedlaethol yn y cyfnod hwn, gan gynnig cefnogaeth hanfodol i sefydliadau celfyddydol, chwaraeon, treftadaeth a chymunedol yng Nghymru.
Dathliad blynyddol yw Gwobrau’r Loteri Genedlaethol o unigolion a grwpiau ysbrydoledig sy’n gwneud pethau anhygoel yn eu cymunedau gyda help arian y Loteri Genedlaethol.
Enwebwyd mwy na 1,500 o bobl a phrosiectau ysbrydoledig ar gyfer Gwobrau’r Loteri Genedlaethol y llynedd, ac mae’r ymgyrch wedi dechrau unwaith eto ar gyfer enwebai 2022.
Mae’r Loteri Genedlaethol yn edrych i roi amlygrwydd i waith eithriadol arwyr lleol sydd wedi mynd y filltir ychwanegol ac wedi gwneud gwahaniaeth i’w cymuned.
Mae unrhyw un sydd wedi derbyn arian y Loteri Genedlaethol yn gymwys am enwebiad.
Roedd Cymru wedi serennu yng ngwobrau’r llynedd, gan gipio cyfanswm o dri acolâd. Coronwyd Katherine Hughes, gwirfoddolwraig ac Ysgrifennydd Canolfan Glowyr Caerffili ar gyfer y Gymuned (The Miners), fel enillydd y DU o fewn y categori Cymunedau ac Elusennau am ei hymdrechion gwirfoddol diysgog dros y blynyddoedd ac fel un o’r grymoedd a yrrodd yr ymgyrch i achub y tirnod hanesyddol lleol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Coronwyd Lauren Price, pencampwraig bocsio Cymru a enillodd fedal aur Olympaidd, fel Olympiad y Flwyddyn yn dilyn ei champau yn Tokyo, ac enwyd prosiect Cadwraeth a Threftadaeth Green Valley yn Abercynon, sy’n defnyddio garddio a natur fel ffordd o wella sgiliau cyflogadwyedd a lles pobl, fel Prosiect y Flwyddyn Loteri Genedlaethol Cymru 2021.
Dywedodd Kelly Brook, sy’n arwain yr ymgyrch i chwilio am yr hoff bobl a phrosiectau a ariennir gan y Loteri Genedlaethol: “Mae’n anrhydedd gwirioneddol i fod yn cefnogi Gwobrau’r Loteri Genedlaethol eleni, sy’n rhoi amlygrwydd i bencampwyr ac eiriolwyr ysbrydoledig o bob cwr o’r DU.
“Mae cymaint o bobl ar hyd ac ar led y wlad sy’n gweithio’n ddiflino i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau, felly mae’n wirioneddol bwysig ein bod yn cymryd cam yn ôl a chydnabod hynny.
“Rwy’n gobeithio y bydd llawer o bobl yn cyflwyno eu henwebiadau, oherwydd mae cymaint sy’n haeddu un o’r gwobrau hyn.
“Mae’r diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol fod cymaint o arian yn mynd tuag at helpu’r arwyr lleol hynny sy’n cyflawni eu gwaith hanfodol.”
Ychwanegodd Jonathan Tuchner, o’r Loteri Genedlaethol: “Mae’r Loteri Genedlaethol wedi parhau i wneud cyfraniad anhygoel i fywyd yn y DU ers ei sefydlu gyntaf yn 1994.
“Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae £30 miliwn anhygoel o arian wedi’i godi tuag at achosion da pob wythnos.
“Mae’r Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn ceisio anrhydeddu’r rheini sydd wedi camu i fyny a gweithio’n ddiflino ar ran eraill. Rydym eisiau diolch iddynt a dathlu eu hymdrechion anhygoel.”
Bydd Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn ceisio dathlu’r unigolion neilltuol o fewn y categorïau canlynol:
- Cymunedau/Elusennau
- Celfyddydau, Diwylliant a Ffilm
- Chwaraeon
- Treftadaeth
- Yr Amgylchedd
- Arwr/Arwres Ifanc (Dan 25 mlwydd oed)
Bydd ychwanegiad newydd ar gyfer 2022, categori’r Amgylchedd, yn edrych i ddathlu unigolion sydd wedi mynd y tu hwnt i’r galw i gadw eu cymuned ar y llwybr gwyrdd.
Bydd enillwyr y categorïau hyn yn cael eu dewis gan banel beirniadu sy’n cynnwys aelodau teulu a phartneriaid y Loteri Genedlaethol, a byddant yn derbyn gwobr ariannol o £5000 yn ychwanegol at dlws eiconig Gwobrau’r Loteri Genedlaethol.
Yn ychwanegol at hyn, mae unrhyw brosiectau sydd wedi elwa o arian y Loteri Genedlaethol yn gymwys hefyd i ymgeisio o fewn categori Prosiect y Flwyddyn.
Bydd y rhestr enwebai yn cael ei chwtogi i gynnwys 16 o ymgeiswyr terfynol, gyda phleidlais gyhoeddus ar draws y DU ym mis Medi i benderfynu’r enillydd.
I wneud enwebiad ar gyfer Gwobrau’r Loteri Genedlaethol eleni, trydarwch @LottoGoodCauses gyda’ch awgrymiadau neu lenwi ffurflen ymgeisio trwy ein gwefan www.lotterygoodcauses.org.uk/cy/awards. Rhaid derbyn ymgeision erbyn canol nos ar 1 Mehefin 2022.