Mae Clwb Dawns WISP yn chwilio am chwe unigolyn creadigol i fod yn rhan o'n rhaglen hyfforddi priosect Phoenix. Ariennir y prosiect hwn gan llywodraeth y DU trwy gronfa shared prosperity, a’i nôd yw cefnogi unigolion i ddod yn arweinwyr rhaglen dawns newydd ar draws Wrecsam a thu hwnt.
Mae gan Clwb Dawns WISP drost 30 mlynedd o brofiad darparu gweithgareddau dawns creadigol i blant ac oedolion sy’n byw ag anghenion ychwanegol. Mae’r sesiynau yn cyfuno symud datblygiadol trwy dawns greadigol fel mecanwaith i feithrin a datblygu sgiliau bywyd pwysig fel hyder, sgiliau cyfathrebu, dealltwriaeth o’r hunan ac eraill, gweithio mewn tîm, gwneud penderfyniadau, a mynegiant creadigol.
Manylion yr hyfforddiant:
Mae’r rhaglen hyfforddi drost 25 wythnos, rhwng Ebrill a Hydref 2024.
Mae’r rhaglen yn dilyn arddull alwedigaethol sy’n cynnwys cysgodi arweinwyr presennol, sesiynau grŵp bach neu un-i-un, ac hunan ddysgu.
Bydd angen ymrwymo 5 awr o'ch amser bob wythnos. Mae union amseroedd y sesiynau i'w cadarnhau, ond rhaid i ymgeiswyr fod ar gael yn ystod y dydd a gyda'r pnawn.
Sgiliau i'w ennill trwy'r hyfforddiant:
Strwythuro sesiynau newydd creadigol, datblygu sgiliau mewn gweithgaredd, gweithio mewn tîm creadigol, Addysgu / arwain coreograffi, cyflwyno adroddiadau ystadegol o unigolion / grŵp, arsylwi ac adrodd ar gynnydd, cymhwyso iechyd a diogelwch yn ystod sessiynau ac ymgymeryd asesiadau risg,dealltwriaeth o cysyniadau cyfrifeg allweddol.
Rhaid i ymgeiswyr:
Cael tair mlynedd o brofiad / hyfforddiant dawns, hefo cysylltiad i dawns creadigol.
Bod â natur empathetig.
Yn agor i brofiadau newydd a moddau newydd o weithio.
Yn hyderus i addysgu tîm.
Bod drost 18 oed.
Tâl:
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael tȃl o £3000 mewn rhandaliadau i gymryd rhan yn y rhaglen hyfforddi, gydag ymrwymiad i weithio i'r sefydliad ar ôl yr hyfforddiant.
Proses ymgeisio:
Mae angen i ymgeiswyr gyflwyno datganiad o ddiddordeb mewn fformat o'ch dewis (ysgrifenedig, fideo neu sain yn Saesneg) i wispdance@gmail.com neu WhatsApp 07942 361052.
Rhaid i ymgeiswyr fod ar gael i fynychu clyweliad creadigol ar ddydd Gwener 19 Ebrill 1yp-3yp yn Wrecsam.
Bydd WISP yn rhedeg ac yn talu am wiriadau DBS ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus.
Dylai eich datganiad ateb y cwestiynau hyn:
Pam fod yr hyfforddiant hwn yn addas i chi? Pam y chi yw'r person sydd ei angen arnom?
Ystyried cynnwys ffeithiau allweddol amdanoch chi'ch hun / eich personoliaeth / eich profiad dawns / profiad addysgu.
Cofiwch hefyd gynnwys eich manylion cyswllt, ac os ydych yn berchennog cerbyd.
Mae Clwb Dawns WISP yn sefydliad cynhwysol, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amryw o cefndiroedd, nodweddion gwarchodedig, a'r gymuned anghenion ychwanegol.