Bydd Einir yn bennaf gyfrifol am hybu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y celfyddydau, gan gynnwys adnabod a threfnu hyfforddiant, creu cysylltiadau a phartneriaethau, a hwyluso ac ysgogi’r broses o greu a chynhyrchu gweithiau newydd. Mae’n swydd sy’n edrych yn gadarnhaol ar ddefnydd yr Iaith yn y celfyddydau, a’i photensial i wneud gwahaniaeth i ddefnyddwyr a chynhyrchwyr.

Roedd creu swydd o’r fath yn un o argymhellion adroddiad ‘Mapio’r Gymraeg’ a gomisiynwyd gan Gyngor y Celfyddydau yn 2019, ac mae’n rhan o uchelgais Cyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu gweledigaeth gynaliadwy ar gyfer yr Iaith Gymraeg.

 

Dywedodd Einir Sion:

“Rwyf wedi mwynhau bywyd gwaith amrywiol. Mae dau fyd wedi rhedeg gyfochrog â’i gilydd gydol fy ngyrfa, byd y celfyddydau a byd y Gymraeg. Ers ugain mlynedd, rwyf wedi gweithredu ar fy angerdd i bontio’r ddau fyd, i ysbrydoli ac ysgogi eraill i weld potensial a chryfder eu plethu yn greadigol, mae’r swydd hon yn gam pwysig ar hyd y llwybr hwn ac yn sialens rwy’n barod amdani.”

Pwy yw Einir Sion?

Merch o Faldwyn a Cheredigion yw Einir Sion. Cafodd ei geni a’i magu ym Machynlleth, a symudodd i Geredigion yn ei harddegau, i fro mebyd ei theulu. Fe aeth i Gaerdydd ddechrau’r 90au er mwyn astudio actio yn y Coleg Cerdd a Drama. Bydd llawer yn gyfarwydd â’i chymeriadau yn ‘Y Palmant Aur’ a ‘Satellite City’.

Wedi cyfnod o ddeng mlynedd yn byw yn y brifddinas ac yn gweithio fel actores, symudodd i gyffiniau Pontypridd i fagu teulu. Mae’n fam sengl falch i ddau ac mae’n parhau i fyw wrth droed y cymoedd.

Dros y pymtheg mlynedd diwethaf mae Einir wedi bod yn gweithio ar hyd cymoedd y de-ddwyrain yn datblygu prosiectau cymunedol dwyieithog. Cwblhaodd MA ‘Celfyddyd yn y Gymuned a Drama’ ddeng mlynedd yn ôl ac mae wedi mwynhau rhoi’r dulliau ymgysylltu a chyfranogi cymunedol ar waith byth ers hynny. Mae’n dod i'r swydd hon wedi deng mlynedd o weithio gyda’r Mentrau Iaith ym Merthyr a Rhondda Cynon Taf.