Rydym yn chwilio am hwyluswyr deinamig ac ymroddedig i ddarparu diwrnod o sesiynau ymarfer theatr pwrpasol i bobl ifanc yn Sir Fynwy, fel rhan o'r Prosiect Dyfodol Creadigol.

Cynhelir sesiynau yn ystod hanner tymor mis Chwefror (12fed – 16eg Chwefror) 2024.

Dyfodol Creadigol

Mae'r Prosiect Dyfodol Creadigol yn rhoi llais drwy'r celfyddydau perfformio, gan gefnogi pobl ifanc 11 - 19 oed yn Sir Fynwy i wneud, dysgu a mwynhau theatr, a phrofi'r manteision anhygoel a ddaw yn ei sgil.

Mae'r prosiect, sydd wedi ymrwymo i rymuso pobl ifanc, yn cynnwys nifer o sefydliadau celfyddydol ac ieuenctid, gan ddatblygu rhwydwaith o ofodau a chyfleoedd sy'n rhoi pwyslais ar archwilio a mwynhau ymarfer creadigol.

Nod y prosiect yw ysbrydoli sgwrsio ymhlith pobl ifanc a datblygu rhaglen wirioneddol ddiddorol sy'n seiliedig ar archwilio materion sy'n dod i'r amlwg fel y rhai mwyaf cyfredol a phwysig iddynt.

Mae'r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Cyfrifoldebau

Byddwch yn darparu diwrnod o fentrau ymarfer o ansawdd uchel; ymgysylltu â chyfranogwyr, archwilio’u straeon a rennir a rhai unigol a'u cynorthwyo i fynegi naratifau gan ddefnyddio dyfeisiau theatrig penodol.

Byddwch yn goruchwylio sesiynau deinamig sy'n ysbrydoli ac yn grymuso pobl ifanc, gan eu galluogi i archwilio’u potensial, meithrin ymddiriedaeth gyda chyfranogwyr a chreu amgylchedd diogel lle maent yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn gallu mwynhau creadigrwydd.

Bydd angen i chi fod ar gael i gyflwyno sesiwn un diwrnod yn ystod yr wythnos yn ystod hanner tymor mis Chwefror (12fed – 16eg Chwefror 2024).

Bydd hefyd yn ofynnol i chi gymryd rhan yn y gwaith o ddarparu a gwerthuso adborth y sesiwn.

Rhaid i bob ymgeisydd fod yn hunangyflogedig a bod â'u Hyswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus eu hunain.

Profiad

  • Profiad o weithio ar brosiectau celfyddydol cyfranogol.
  • Profiad o weithio gyda phobl ifanc 11 – 19 oed.
  • Profiad o ddyfeisio prosiectau perfformio mewn amgylchedd dan arweiniad ieuenctid.
  • Dangos ymarfer creadigol cynhwysol a dychmygus.
  • Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol

Sgiliau Personol

  • Ymrwymiad i ragoriaeth ac arloesedd mewn ymarfer creadigol.
  • Bod â chred yng ngrym trawsnewidiol ymarfer creadigol ar gyfer pobl ifanc.
  • Y gallu i wrando, cyfathrebu ac empathi â phobl ifanc o ystod amrywiol o gefndiroedd.
  • Dealltwriaeth o, neu fod yn agored i ddysgu am, arfer cynhwysol a'r rhwystrau y gallai pobl ifanc eu hwynebu wrth gael mynediad i'r celfyddydau.
  • Gallu creu amgylchedd croesawgar, diogel a chadarnhaol lle mae pobl ifanc yn teimlo'n ddiogel.
  • Byddwch yn ymrwymedig i'r lefelau uchaf o hygyrchedd a chynhwysiant yn eich arferion gwaith.

Lleoliadau

Bydd sesiynau'n cael eu cynnal yng Nghanolfan Celfyddydau Melville, Y Fenni.   Bydd angen i'r artist allu teithio a gweithio wyneb yn wyneb yn y lleoliad hwn.

Cyfnod/Amserau

Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal yn ystod hanner tymor mis Chwefror (12fed – 16eg Chwefror 2024).

Ffi



£250.00 y dydd (sef tua rhwng 10am – 4pm)

Sut i wneud cais

I drafod y rolau, e-bostiwch, neu ffoniwch 01633 644008.  Danfonwch bob cais at katherinemcdermidsmith@monmouthshire.gov.uk

Dylech gynnwys CV cyfredol yn eich cais, gan gynnwys dau eirda.   Dylech hefyd gynnwys naill ai datganiad 500 gair neu fideo 2 funud, yn esbonio sut y byddwch chi a'ch ymarfer yn diwallu anghenion y rôl a gweledigaeth y prosiect.   Rhowch ddolen i bortffolio ar-lein os gwelwch yn dda, lle bo angen.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 12ed Ionawr, 2024.

Dyddiad cau: 12/01/2024