Ydych chi'n Arferwr celfyddydau sydd â diddordeb mewn ehangu eich sgiliau trwy hyfforddi fel Hwylusydd Arfer Adfyfyriol?

"Ychydig ddyddiau llesol, ysbrydoledig ac egnïol. Fe grëodd Alison amgylchedd croesawgar, anfarnol a chwbl gynhwysol a oedd yn galluogi pawb i brofi gofod ac amser i fynegi eu hunain yn ddiogel ac yn hyderus. Byddaf yn defnyddio'r egni rwyf yn ei brofi nawr, a'r wybodaeth rwyf wedi'i hennill i fwrw ymlaen er mwyn helpu llywio arfer adfyfyriol o fewn fy sefydliad fydd yn gymorth i'r staff a'r artistiaid rydym yn cefnogi." Cyfranogwr, 2024

Mae'r cwrs hyfforddi wedi'i anelu at artistiaid, arferwyr creadigol a gweithwyr proffesiynol celfyddydau-mewn-iechyd sydd eisoes yn hwyluswyr profiadol. Bydd y cwrs hyfforddi-drwy-brofiad 3-diwrnod hwn yn eich cyflwyno i'r cysyniad o Arfer Adfyfyriol a rhoi i chi'r sgiliau i fedru cynnal grwpiau Arfer Adfyfyriol o fewn eich sefydliadau neu'n allanol.

Mae astudiaethau wedi profi bod Arfer Adfyfyriol yn medru lleihau sgil-effeithiau gorweithio a'i fod yn cefnogi lles a bywiogrwydd ar draws y proffesiynau cymorth. Mae ymchwil yn awgrymu y gallai artistiaid ac arferwyr creadigol fod o dan risg uwch o sgil-effeithiau gorweithio oherwydd natur ansicr ac, ar brydiau, ynysig eu gwaith. Mae disgwyliad cynyddol ar draws comisiynu celfyddydau ac iechyd y DU y dylai llesiant artistiaid gael ei integreiddio i bob prosiect. Roedd gwerthusiad o raglen ddwy flynedd o gefnogaeth adfyfyriol i artistiaid, a gomisiynwyd gan Rwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru, ac a gefnogwyd gan The Baring Foundation, wedi cadarnhau manteision hyfforddi artistiaid i ddod yn hwyluswyr Arfer Adfyfyriol.

Adeiladodd yr Hyfforddiant Arfer Adfyfyriol gymuned o arfer newydd. Meithrinodd yr hyfforddiant gysylltiad, hyder, a sgiliau hwyluso newydd, gydag arfer adfyfyriol yn cael ei integreiddio fwyfwy i gyfarfodydd staff, sesiynau trafod prosiectau, a sesiynau creadigol. Roedd y cyfranogwyr yn gwerthfawrogi natur brofiadol yr hyfforddiant ac yn disgrifio dod yn fwy adfyfyriol ac yn llai adweithiol yn eu gwaith a'u bywydau o ddydd i ddydd.” Adroddiad Gwerthuso How Ya Doing, Jane Willis, 2025.

 

Dyddiad cau: 14/11/2025