Fel mae'r cynyrchiadau ar y llwyfan yn derbyn adolygiadau gwych, aiff gwaith y tu ôl i'r llenni ati i godi ymwybyddiaeth mewn ysgolion a hyder yn y rhai sydd â phrofiad byw.

Ers ei pherfformiad cyntaf un yng Nghaerdydd fis diwethaf mae cynhyrchiad Theatr y Sherman a Grand Ambition o ddrama newydd Rebecca Jade Hammond, Hot Chicks, wedi derbyn canmoliaeth eang ac adolygiadau pedair seren yn y wasg. Fel mae'r perfformiadau yn parhau yng Nghaerdydd cyn symud i Theatr y Grand Abertawe, mae’r gwaith addysgiadol ac ymgysylltu sy’n cyd-redeg â’r ddrama yn parhau hefyd , gyda thimau yn gweithio gyda phartneriaid yn y ddwy ddinas er mwyn ymgysylltu pobl ifanc â'r problemau mae'r ddrama yn eu gwyntyllu.

Dyma ddrama gythryblus a thywyll o ddigrif; aiff Hot Chicks i’r afael ag un o argyfyngau cenedlaethol mwyaf dybryd ein hoes; camfanteisio ar blant yn droseddol. Wrth ddatblygu’r cynhyrchiad, bu’r tîm creadigol yn cydweithio ag elusennau, gwasanaethau cymdeithasol a sefydliadau trydydd sector gan gynnwys CMET yn Abertawe, SAFE yng Nghaerdydd, Cascade Cymru (Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant) ac YMCA Abertawe. Cyflwynir rhaglen addysg ac ymgysylltu sy’n seiliedig ar yr ymchwil yna, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ochr yn ochr â’r ddrama, i godi ymwybyddiaeth o gamfanteisio.

Yng Nghaerdydd, mae Francesca Pickard o Theatr y Sherman wedi gweithio gyda’r Hwylusydd Allgymorth llawrydd Katie-Elin Salt i gyflwyno rhaglen o weithdai creadigol i bobl ifanc a ddatblygwyd ochr yn ochr â SAFE, gyda chyllid gan Gyngor Caerdydd a’r Gronfa Gwaddol Ieuenctid, gan ddod â’r bobl ifanc hyn i mewn i’r theatr am y tro cyntaf.

Mae Grand Ambition, grŵp creadigol Theatr y Grand Abertawe, wedi bod yn gweithio gyda staff CMET (Cyd-destunol, Ar goll, Camfanteisio a Masnachu Pobl - Diogelu Plant a Phobl Ifanc yn Abertawe rhag Niwed Allanol) ac YHub YMCA i gefnogi ymgysylltiad defnyddwyr gwasanaeth â Hot Chicks, gyda gweithdai wythnosol yn YHub yn archwilio ffyrdd creadigol o fynegi'r emosiynau a achosir gan y ddrama.

Dywedodd Michelle McTernan, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Grand Ambition:

Mae cyfraniad staff CMET a defnyddwyr gwasanaeth wedi bod yn amhrisiadwy i ni. Mynychodd ein hawdur, Rebecca Jade Hammond, a chyfarwyddwr y ddrama, Hannah Noone,  panel gyda phobl ifanc a derbyniwyd llawer o awgrymiadau ganddyn nhw i roi cig a gwaed i'r cymeriadau a’u gwneud yn ddynol ac yn gredadwy. Mae’r merched yn y ddrama yn siarad fel pobl ifanc o Abertawe,  wrth freuddwydio am eu dyfodol.

Yna daeth aelodau o Banel Ieuenctid CMET, ynghyd â disgyblion o Ysgol Gyfun Treforys a defnyddwyr YHub, i’r theatr i wrando ar ddarlleniad cynnar o’r sgript ac i roi adborth i ni – maent wedi ein helpu'n fawr i ddod â’r stori hon yn fyw. Mae’n bwysig i ni ein bod yn cynrychioli lleisiau a glywir yn llai aml ar ein llwyfannau. Er yr holl sylw y mae llinellau sirol (County Lines) yn eu cael ar hyn o bryd, ychydig iawn o sylw sydd wedi bod yn y cyfryngau i'r bobl ifanc sydd wedi eu heffeithio. Dyma sgript finiog a thywyll o ddoniol sy’n eich gwthio ymlaen, cyn dod â realiti’r sefyllfa a wynebir gan lawer o bobl ifanc yn boenus i’r amlwg. Rydyn ni’n mawr obeithio y bydd pobl ifanc a’u hoedolion yn dod i’w gweld. Credwn fod gan y celfyddydau gyfraniad gwerthfawr i’w wneud wrth amlygu materion cymdeithasol, a gobeithiwn y bydd Hot Chicks yn gwneud hynny.

Cyn dechrau ymarferion, ymgynghorodd y tîm ag arbenigwr blaenllaw ar Gamfanteisio Troseddol ar Blant, Dr Nina Maxwell o Brifysgol Caerdydd, ar y sgript. Dychwelodd Dr Maxwell i weld y cynhyrchiad yng Nghaerdydd:

Mae hwn yn gynhyrchiad y dylid ei weld gan ymarferwyr sy’n gweithio gyda phobl ifanc sy'n agored i niwed, i athrawon, i rieni plant yn eu harddegau, ac yn bwysig iawn gan bobl ifanc eu hunain er mwyn iddynt ddod yn ymwybodol o demtasiwn a thrapiau camfanteisio, a sut y gall ‘un job’ ddwysau i droell o ofn, gorfodaeth, trais, camfanteisio rhywiol a throseddu.

“Byddai’n wych gweld y ddrama ddylanwadol hon a’i hadnodd addysgol yn cael ei gyflwyno ledled Cymru i hysbysu pobl ifanc o'r gwirionedd a gobeithio eu hatal rhag mynd yn ddioddefwyr eu hunain.

Crëwyd Pecyn Addysg Hot Chicks gan arweinydd Lles Tîm Cwricwlwm Caerdydd, yr athrawes Kate Martin. Bydd yr adnodd dwyieithog hwn ar gael i bob ysgol yng Nghymru i gyd-fynd â’r ddrama drwy rwydwaith Hwb Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y dramodydd Rebecca Jade Hammond:

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae toriadau i glybiau ieuenctid, canolfannau cymunedol a cholled parciau wedi gwneud pobl ifanc sy'n agored i niwed yn dargedau hawdd ar gyfer rhwydweithiau troseddu trefniadol.

Yn fwy diweddar, bu cynnydd yn nifer y merched a merched ifanc sy’n chwarae rhan allweddol yn y rhwydweithiau, a dyma’r merched yr oeddwn i eisiau eu rhoi yng nghalon y ddrama. Mae Hot Chicks yn ymwneud â’r merched ifanc hynny sy’n angof - wedi diflannu drwy fylchau mewn addysg a chymdeithas."

Perfformiwyd Hot Chicks yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd 21 Mawrth-5 Ebrill 2025. Mae’n trosglwyddo i Theatr y Grand Abertawe 16-25 Ebrill 2025.