Arddangosfa Gelf yn Mis Mawrth-Mai 2024
'gwneud peth newydd'
chwareus | arbrofi | cydweithio
Beth
Fe'ch gwahoddir i gyflwyno gwaith i'w gynnwys mewn arddangosfa newydd a fydd yn agor ar benwythnos HADAU, Gŵyl Gelfyddydol gyntaf Urban Crofters.
Ein thema yw ‘gwneud peth newydd’ – chwareus, arbrofi a chydweithio.
Mae gennym ddiddordeb mewn gwaith newydd rydych chi wedi'i greu trwy arbrofi a chwarae trwy ddefnyddio cyfrwng newydd neu drwy gydweithio ag artist arall sy'n defnyddio cyfrwng gwahanol i chi. Er enghraifft: ffotograffiaeth gyda phaentio; celf fideo gyda cherflunio; cyfuniadau gwahanol o gerddorion mewn cyfansoddiadau byrfyfyr etc.
Gall gwaith corfforol fod o unrhyw faint, 3D neu 2D. Bydd gennym nifer o sgriniau i ddangos perfformiad neu waith sgrin. Rydym yn agored i bob awgrym.
Pam
Dyma gyfle i bobl greadigol gyfrannu at greu arddangosfa ysgogol sy’n procio’r meddwl yn adeilad eglwys Urban Crofters (Ground Up Coffee House) yn ystod tymor y Grawys a thu hwnt.
Bydd dathliad noson agoriadol yr arddangosfa a chynulleidfa o rhwng 50 a 100 o bobl bob dydd am chwe diwrnod yr wythnos dros ddau fis.
Rhoddir cyhoeddusrwydd eang i'r arddangosfa.
Pwy
Mae croeso i unrhyw un sy’n byw yng Nghymru neu sydd â chysylltiad cryf â Chymru gyflwyno gwaith.
Bydd proses o ddethol i guradu arddangosfa a fydd yn sicrhau y bydd yn gweithio yn y gofod ac yn ysgogi sgyrsiau gyda'r gynulleidfa.
Y curaduron fydd:
Prue Thimbleby, artist sy’n gweithio yn y Celfyddydau ac Iechyd ac aelod o gyngor Cyngor Celfyddydau Cymru
Lois Adams, artist yn gweithio i Cwmpawd (www.cwmpawd.org) a chyd-sylfaenydd Morphe Cymru.
Lle
Urban Crofters: adeilad eglwys ar Stryd Crofts yn y Rhath.
Mae'r gofod yn gartref i Eglwys Urban Crofters, Caffi Ground Up ac Oriel y West Wall.
Pryd
Bydd dathliad noson agoriadol yr arddangosfa ar nos Wener, Mawrth 1af.
Bydd yr arddangosfa yn cyd-fynd â Gŵyl Gelfyddydau gyntaf HADAU yn Urban Crofters i ddathlu creadigrwydd a ffydd yng Nghymru.
Bydd yr arddangosfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 9 – 3 ar y cyd â Ground Up Café a bob bore Sul ar y cyd ag Eglwys Urban Crofters. Ac o bosib dydd Sadwrn os gall artistiaid ei stiwardio… (i’w gyhoeddi).
Bydd yr arddangosfa yn cau dydd Iau 9 Mai.