Crëwyd Gwrando i ddilyn Degawd Ieithoedd Cynhenid y Cenhedloedd Unedig ac mae wedi darparu taith o ddysgu a darganfod i'r artistiaid a'r staff sydd wedi cymryd rhan. Roedd straeon gwych am gydweithio artistig a chysylltiadau a fydd yn tyfu dros y blynyddoedd i ddod. Roedd nifer o heriau hefyd, gan ein gorfodi i gwestiynu ein hanes, ein rhagdybiaethau a’n safbwyntiau. Roedd y daith yn un bersonol ac unigol a oedd yn fodd inni ddeall yn well ein lleoliad, ein cefndir a’n profiad byw sy’n llywio ein gwrando.

 

Mae’r holl broses wedi herio ein hunaniaeth. Roedd rhai yn siarad iaith frodorol ond nad oeddynt yn ystyried eu hunain yn ‘frodorol’. Roedd eraill yn rhan o rym byd-eang a’r holl freintiau a’r hanes o orthrwm sy’n mynd law yn llaw. Roedd nifer oedd yn adennill eu hiaith a'u diwylliant hynafol a chyfran sy’n siarad ‘ieithoedd’ eraill – fel iaith anabledd – sy’n newid rhwng diwylliannau. Roedd y profiad o wrando ar bobl frodorol a chlywed eu safbwyntiau wedi torri ein crib braidd a’n hatgoffa o’n safle breintiedig mewn byd angharedig. Rydym wedi cwestiynu ein cymhellion, ein hanes a’n rhagfarnau. Syndod inni oedd clywed yr holl gwestiynau dwys yma.

 

Gweithdai a sesiynau grŵp oedd canolbwynt y gwaith o drafod profiadau a rhannu’r gwersi oedd i’w dysgu. Daeth yn amlwg fod themâu’n gorgyffwrdd rhwng prosiectau’r artistiaid.

 

Roedd treiglad amser a marcio newidiadau ym myd natur yn un thema gyffredin, gyda chylch bywyd a’r newid yn y tymhorau. Trafodwyd amser hefyd o ran buddsoddi mewn perthnasau hir dymor nad ydynt yn cyd-fynd ag amserlen arferol ein prosiectau. Mae treiglad amser yn ein rhuthro, yn pwyso arnom ac yn gosod dyddiadau cau. Roedd cefnu ar y rhain yn ein rhyddhau i rannu, bod yn greadigol a meddwl am bethau'n ddyfnach.

 

Daeth i'r amlwg hefyd nad gweithio'n ddigidol oedd y ffordd gywir o feithrin perthnasau dwfn a sensitif. Yn sgil y gweithdy digidol cyntaf ym Mai, cynhaliwyd cyfarfod wyneb yn wyneb yn  Eisteddfod Boduan yn Awst. Yno cawsom gwmni’r artist Sami a'r ganwr joic, Ole-Henrik Lifjell. Gwrandawodd ar ein sgyrsiau a chynnig mewnwelediad a newidiodd gwrs y rhaglen. Roeddem wedi sylweddoli, wrth geisio bod yn ofalus, ein bod ni wedi peidio â gwneud dim ac nad oedd bod yn oddefol yn ddewis inni. Roedd yn well gwneud camgymeriadau a chydnabod ein diffygion na gwneud dim.

 

Buom yn trafod grym a braint, cyd-greu, eiddo deallusol, bod â hawl, colli iaith a thrawma. Nid ydym wedi dihysbyddu’r pynciau eto ond byddwn yn parhau i’w wneud yn ein gwaith a’n bywyd.

 

‘Beth yw ein swyddogaeth yn y Gymru sydd ohoni?’ oedd cwestiwn ar ein gwefusau amlaf. Rydym yn ffodus bod y Gymraeg mewn cyflwr gweddol iach o'i chymharu â'r ieithoedd brodorol eraill – mae un yn cael ei cholli bob pythefnos (gwybodaeth o’r Cenhedloedd Unedig). Nid oes angen y lle yma i lwyfannu ein hiaith ni ond gobeithio bydd modd inni gynnig lle diogel i ieithoedd brodorol eraill.

 

Bydd y gwersi a’r heriau a ddaeth i’n rhan yn ein helpu i gyd-greu pecyn cymorth i alluogi artistiaid i weithio gyda diwylliannau ac ieithoedd brodorol. Byddwn yn casglu'r gwersi o artistiaid Gwrando a'r sector ehangach sy'n gweithio yn y maes i lywio’r pecyn yn ein digwyddiad nesaf yn Aberystwyth ym Mawrth 2024. Byddwn yn rhannu’r syniadau â meddylwyr yn y maes yn nes ymlaen yn y flwyddyn a hefyd yn Womex24 ym Manceinion yn yr hydref. Bydd yn ffordd o brofi ein syniadau gyda phobl sydd â phrofiad byw.

 

Awdur y blog yw Elen Roberts, Rheolwr Llawrydd Gwrando.

 

 

Mae staff Cyngor y Celfyddydau a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru wedi ariannu a datblygu’r rhaglen. Yn y broses maent wedi dysgu er mwyn bod yn gyfrifol yn fyd-eang wrth fuddsoddi arian, rhaid inni fynd y tu hwnt i gydnabod yn unig y cymunedau ac ieithoedd brodorol yng ngwledydd ein gwaith. Mae gennym rwymedigaeth dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i fod yn gyfrifol yn fyd-eang. Fel rhan o Strategaeth Cyfiawnder Hinsawdd newydd Cyngor y Celfyddydau, mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn ymrwymo i weithio mewn ffyrdd dan arweiniad pobl frodorol a chynnwys lleisiau brodorol yn ein trafodaethau.

 

 

Dyma grynodeb o waith artistiaid Gwrando. Bydd manylion llawnach ar ddiwedd eu prosiectau:

 

Siri Wigdel - 'Govledh' Bu’n gweithio gyda'r cwmni Norwyaidd/Sami, GullBakken, ac Ole-Henrik Lifjell ar draddodiad y Sami o ganu joic. Mae Siri’n hanu o Norwy ac mae ganddi dras Sami. Bu’n ymchwilio i’r diwylliant a chydweithio â'r artistiaid o Gymru, Cai Tomos a Jodie Marie.


Chembo Liandisha – 'Namvwa' Bu’n gwrando ar ddiwylliant mamiaith ei mam yn Sambia gyda phobl y Gawa Wndi a’r Chewa gan wrando ar eu pryderon, eu syniadau a’u gobeithion mewn sefyllfa mor gyfnewidiol.


Dylan Huw –'cyfiaith/queer' Creodd ddeialog ac ysgrifau archwiliadol rhwng awduron/artistiaid o Gymru ac Iwerddon sy'n gweithio yn y Wyddeleg a’r Gymraeg. Archwiliodd y syniad o greu iaith gwiar a phwysigrwydd gwrando ar ieithoedd a chymunedau lleiafrifol sydd mewn perygl, mewn cysylltiad â syniadau cwiar ac ecolegol.


Georgina Biggs - ‘Ways of Listening’ Roedd wedi dyfnhau ei harchwiliad creadigol gan wrando ar leisiau’r cyndeidiau gydag Anthar Kharana a Javier Peralta (cerddor â nam ar ei olwg ym Mogota). Archwiliodd hefyd ddefod iachau draddodiadol pobl y Mwisca yng Ngholombia.


Veronica Calarco - 'Gwrando Dwfn Molla Wariga' Datblygodd gyfnewid rhwng artistiaid yn Awstralia, Iwerddon a Chymru gan greu lle i'r artistiaid ailfframio sut maent yn dysgu oddi wrth ei gilydd a rhannu eu harchwiliadau diwylliannol, ieithyddol a chreadigol.


Gareth Bonello – ‘Sai-thaiñ’ Bu’n gweithio gyda Lapdiang Syiem, bardd, ymgyrchydd a pherfformiwr o gymuned Khasi ym Meghalaya, Gogledd-ddwyrain India gan archwilio'r cysylltiadau rhwng y Cymry a phobl Khasi a'r heriau sy'n eu hwynebu. Roedd yn cyfuno barddoniaeth, perfformiad, cerddoriaeth a deunydd clywedol/gweledol yn y Gymraeg ac iaith y Khasi i drafod hunaniaeth ddiwylliannol, cyfiawnder cymdeithasol a’r amgylchedd.

 

Iola Ynyr – 'Coflaid' – mae ganddi ddiddordeb mewn gwrando ar straeon menywod brodorol Canada gan rannu profiadau a gwirioneddau a gweld y tebygrwydd a'r gwahaniaethau rhwng Canada a Chymru.