Dymunwn wneud ymaelodi ag AMA, a'u cyfleoedd hyfforddiant, yn fwy hygyrch i ystod ehangach o unigolion a sefydliadau yng Nghymru. O fis yma ymlaen, gall unigolion wneud cais ar-lein am fwrsariaeth neu raglen hyfforddi a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer arweinwyr sefydliadau celfyddydau.
 

Bwrsariaeth aelodaeth

Rydym yn darparu pedair bwrsariaeth aelodaeth sy'n talu 100% o'r gost aelodaeth.

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer bwrsariaeth rhaid i chi weithio yn y sector diwylliannol, bod eich lleoli yng Nghymru, neu'n gweithio i sefydliad yng Nghymru, a chwrdd ag o leiaf un o'r meini prawf a amlinellir. Darllenwch y manylion llawn ar gyfer Bwrsariaeth Aelodaeth Cyngor Celfyddydau Cymru yma.

Mae'n ddefnyddiol nodi nad yw bwrsariaethau'n cael eu dyfarnu i fwy nag un person o'r un sefydliad, a dim ond i'r rhai nad ydyn nhw wedi bod yn aelodau o'r AMA o'r blaen y mae bwrsariaethau ar gael. Y dyddiad cau i wneud cais yw 31 Gorffennaf 2020 am 5pm.
 

Bwrsariaeth y Rhaglen Datblygu ar Raddfa Fach

Rydym yn darparu dwy fwrsariaeth ar gyfer y Rhaglen Datblygu ar Raddfa Fechan (sy'n rhedeg rhwng 13 -31 Gorffennaf 2020). Mae'r rhain ar gael i weithwyr proffesiynol y celfyddydau sy'n gweithio yng Nghymru.

Bydd y fwrsariaeth hon yn talu 100% o'ch cost cynadleddwr ac ni fydd yn rhaid i chi gyfrannu'r ffi arferol o £95 + TAW ar gyfer y rhaglen hon.

Mae'r rhaglen hon bellach yn cael ei darparu ar-lein ac mae'n cynnwys 18 awr o hyfforddiant a chefnogaeth wyneb yn wyneb dros dair wythnos. Mae'r rhaglen ar gyfer arweinwyr sefydliadau celfyddydau, diwylliant a threftadaeth sydd â deg neu lai o staff ac fe'i cynlluniwyd i helpu i fynd i'r afael â'r materion dybryd sy'n wynebu arweinwyr sefydliadau bach ar hyn o bryd.

Darllenwch y meini prawf llawn yma, a pheidiwch ag anghofio llenwi'r ffurflen gais erbyn 3 Gorffennaf 2020.
 

Gallwch ddod o hyd i grynodeb o'r holl gyfleoedd AMA ar gael i unigolion a sefydliadau yng Nghymru yma.