Mae Urdd Gwneuthurwyr Cymru yn sefydliad aelodaeth celf a chrefft cymhwysol genedlaethol wedi'i leoli yng Nghaerdydd, Cymru. Mae'r sefydliad yn bodoli i ennyn diddordeb ac ysbrydoli cynulleidfaoedd fel canolfan ragoriaeth ar gyfer Crefft a Chelf Gymhwysol, ac i hyrwyddo Gwneuthurwyr Crefftau Cymru.
Ein pwrpas craidd yw Ysbrydoli, Cefnogi a Dathlu.
- Ysbrydoli ymgysylltu â chrefftau - Mae'r Urdd yn ysbrydoli ymgysylltiad a dysgu am grefft gyfoes, trwy ddarparu cyfleoedd i gynulleidfaoedd ac artistiaid brofi celf a chrefft gymhwysol gyfoes yng Nghymru.
- Cefnogi gwneuthurwyr crefftau o Gymru - Sefydliad aelodaeth o wneuthurwyr crefft o Gymru yw'r Urdd sy’n rhannu ethos cydweithredol cryf yr Urdd.
- Dathlu rhagoriaeth crefft - Hyrwyddo crefftau wedi'u gwneud â llaw a chelf gymhwysol o ansawdd uchel yng Nghymru, gwaith ei aelodau ac Artistiaid a Gwneuthurwyr Cenedlaethol a Rhyngwladol gwahoddedig.
Mae Urdd Gwneuthurwyr Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i’w nodau elusennol, sef hyrwyddo a chadw sgiliau celf a chrefft gymhwysol, trwy gyflwyno crefft a chelf gymhwysol o’r ansawdd uchaf i’r cyhoedd eu gweld yn ei oriel, Crefft yn y Bae yng nghanol Bae Caerdydd.
Mae'r Urdd wedi bod yn llwyddo i gynnal ei Amcanion Elusennol ers dros 34 mlynedd, sef: “Yr Amcanion yw hyrwyddo addysg er budd y cyhoedd yn y Celfyddydau a Chrefft weledol yn benodol, drwy nifer o ffyrdd gwahanol, gan gynnwys, arddangosfeydd o grefftau wedi'u gwneud â llaw o ansawdd uchel a darparu rhaglenni gweithdy”
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl grefft broffesiynol sy'n ymwneud â dylunio a chreu crefft gyfoes ac sy'n cynhyrchu gwaith sy'n dangos undod dylunio, crefftwaith ac arloesedd.
Sut i wneud cais
Mae manylion llawn a ffurflen gais ar gael i'w lawr lwytho o'r wefan www.makersguildinwales.org.uk
Ystyrir ceisiadau unwaith y flwyddyn; Sylwch mai'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1af o Fawrth.